MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: PRC-URC / MPR - UPR
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teacher - Maternity Cover

Cyngor Wrecsam

Cyflog: PRC-URC / MPR - UPR

Ynglŷn â'r Rôl
Cyfnod mamolaeth

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.


Rydym yn chwilio am athro/athrawes egniol a brwdfrydig i weithio fel rhan o Adran y Gymraeg o fewn Portffolio Addysg Cyngor Sir Wrecsam. Byddwch yn cyfrannu at waith Gwasanaeth Cynghori'r Gymraeg, gan gefnogi'r awdurdod lleol a'i ysgolion i gryfhau addysgu a dysgu'r Gymraeg.
Byddwch yn:

* Addysgu Trochi cynradd o ddydd i ddydd gyda chyfrifoldeb dros yr hwyr ddyfodiaid

• cefnogi datblygiad eu Cymraeg er mwyn sicrhau addysg o ansawdd uchel i bob dysgwr

• helpu i greu cyd-destun positif, cefnogol ac uchelgeisiol ar gyfery disgyblion yma ac eraill fydd angen cymorth trochi

• darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant effeithiol i ysgolion

• arwain a datblygu ymhellach ddarpariaeth yr awdurdod ar gyfer dysgwyr sy'n newydd i'r iaith Gymraeg yn ysgolion cynradd Gymraeg y sir yn bennaf

• sicrhau profiadau trochi o ansawdd uchel i ddysgwyr sy'n newydd i addysg Gymraeg

• cefnogi ysgolion i sicrhau cynnydd cadarn a chanlyniadau cryf i ddysgwyr sy'n newydd i'r iaith Gymraeg

Mae'r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn chwarae rôl ganolog wrth godi safonau, sicrhau cynnydd disgyblion a darparu darpariaeth o ansawdd uchel i bawb. Prif Gyfrifoldebau

1. Cefnogi cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor ac unrhyw strategaethau cenedlaethol cysylltiedig, gan gynnwys Cymraeg 2050.

2. Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion Sir Wrecsam i ddarparu cyngor a chymorth ar addysgu a dysgu trochi Cymraeg, yn unol â gofynion statudol a pholisïau.

3. Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno dysgu proffesiynol parhaus ar fethodoleg Dysgu iaith, gan gynnwys rhwydweithiau dysgu proffesiynol, er mwyn gwella darpariaeth a chodi safonau.

4. Cefnogi dylunio a chyflwyno rhaglenni penodol sy'n mynd i'r afael ag anghenion y disgyblion.

5. Cynnal a datblygu arbenigedd pwnc drwy ymchwilio i adnoddau, methodolegau ac offer digidol cyfredol ar gyfer dysgu ac addysgu'r Gymraeg.

6. Cefnogi ysgolion i gynllunio datblygiad disgyblion hwyr ddyfodiaid ac i rannu arfer effeithiol mewn addysgu, dysgu ac asesu.

7. Cydweithio â chydweithwyr ar lefel sir, ranbarthol a chenedlaethol drwy grwpiau gwaith perthnasol a gweithgarwch ymgynghorol.

8. Mynychu cyfarfodydd tîm, rhannu arfer gorau, ac adrodd ar waith a gwblhawyd mewn modd amserol a chywir.

9. Cymryd cyfrifoldeb am ddysgu proffesiynol parhaus a chyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n gymesur â'r rôl.

Amodau Gwaith Arbennig

Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gydag athrawon yn yr ystafell ddosbarth a chyfrannu ac arwain dysgu proffesiynol i ddatblygu pob agwedd ar iaith.

• Gall natur y gwaith olygu bod deilydd y swydd yn gweithio, ar brydiau, y tu allan i oriau gwaith arferol;

• efallai y bydd gofyn i ddeilydd y swydd fynychu, o bryd i'w gilydd, gyrsiau hyfforddi, cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd eraill fel sy'n ofynnol gan ei anghenion hyfforddi ei hun ac anghenion y gwasanaeth;

• mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad lefel Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

Aelodaeth o'r Gweithlu Addysg

• statws Defnyddiwr Car Yswiriant Busnes yn unol â pholisi'r Cyngor;

• telir treuliau yn unol ag amodau gwasanaeth lleol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.

About Us - Wrexham County Borough Council

Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.