MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cymerau Language Centre,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,731 - £51,942 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,731 - £51,942 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI GWYNEDD
ATHRO / ATHRAWES (DROS GYFNOD MAMOLAETH)
CANOLFAN DROCHI CYMERAU, PWLLHELI ( Bl. 2- 4)
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymhwyster. Ystyrir cyfnod o secondiad ar gyfer y swydd hon.
Yn Eisiau: 2 Tachwedd 2026.
Swydd dros dro yw hon yn ystod cyfnod mamolaeth athrawes yn y Ganolfan Drochi. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deilydd y swydd i'w gwaith.
Rydym yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar i ymgymryd â dyletswyddau trochi iaith disgyblion blynyddoedd 2 - 4
Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd a bydd hyfforddiant o ran defnyddio dulliau trochi iaith effeithiol yn cael ei gynnig. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i gysylltu gyda Phennaeth y Gyfundrefn Drochi - Siwan Llwyd Roberts e-bost: siwanllwydroberts@gwynedd.llyw.cymu
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn.
DYDDIAD CAU: 10 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 10 GORFFENNAF 2026.
Cynhleir cyfweliadau ar 13/07/2026.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Ymgorffori gweledigaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.
DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddatblygu strategaethau mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.
DYMUNOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu a throchi o ansawdd
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion.
Dangos angerdd at y defnydd o'r Iaith Gymraeg
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf egwyddorion trochi yn genedlaethol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosibl cael cymorth i wirio'r iaith).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Dysgu Cymraeg i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2- 4 sy'n newydd-ddyfodiaid i Wynedd gan gefnogi ysgolion Gwynedd yn y maes trochi ieithyddol drwy gynnig arweiniad a hyfforddiant.
- Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion . - Diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
Dyletswyddau Dysgu:
- Gweithredu trefniadau diogelu effeithiol.
- Cynnig addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu, cefndir a diddordebau'r unigolion.
- Creu a chynnal man gwaith deniadol ac ysgogol, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd
- Yn unol ag arweiniad cyfredol y Gyfundrefn, cynllunio rhaglenni gwaith.
- Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
- Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu o safon uchel
- Sicrhau bod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
- Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob dysgwr a roddir i'w g/ofal hyd eithaf ei allu.
- Gosod a marcio gwaith y dysgwyr.
- Cynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Gyfundrefn Drochi.
- Arddangos dealltwriaeth lawn o ofynion Cwricwlwm i Gymru , gan briodoli hynny i gynlluniau.
- Gweithredu unrhyw raglenni dilynnol - cydlynu dychweliad y disgyblion i'r ysgolion; cynnig arweiniad i'r ysgolion cynradd pan fo angen a llunio rhaglenni ôl-ofal i'r disgyblion gan sicrhau gweithrediad y cynllun yn unol â strategaeth y Gyfundrefn Drochi, ynghyd â darparu'r ôl-ofal i'r disgyblion yn yr ysgolion.
- Sicrhau trefniadau addas ar gyfer goruchwylio plant yn ystod amser egwyl ac amser cinio mewn cydweithrediad gyda'r Pennaeth. Rhannu'r cyfrifoldeb am y disgyblion yn ystod amser chwarae ac amser cinio, yn ogystal ag ar ddechrau a diwedd y diwrnod.
- Sicrhau bod y polisïau perthnasol yn cael eu dilyn (e.e. diogelwch).
- Cyfrannu at hunan-arfarniad o waith y Gyfundrefn Drochi ar gyfer Cynllun Busnes/Cynllun datblygu sefydliadol mewn ymgynghoriad â'r staff a'r Pennaeth.
- Tracio cynnydd y dysgwyr ac addasu'r ddarpariaeth yn unol â'r gofyn drwy gynnig mwy o her, neu gefnogaeth ychwanegol.
- Sicrhau bod gofynion unrhyw CDU yn cael eu gweithredu.
- Unrhyw ofynion rhesymol eraill ar gais y Pennaeth.
Dyletswyddau eraill:
- Cyfrannu tuag at y gwaith o hyfforddi athrawon a chymorthyddion ysgolion prif lif yn ôl y galw, unai drwy sesiynau hyfforddiant ffurfiol/ TEAMS neu ymarferol ar lawr dosbarth.
- Cynnal cyfarfodydd rhieni.
- Cyfrannu tuag at unrhyw flaenoriaeth berthnasol gan yr Adran Addysg ym maes trochi y Gymraeg drwy lunio adnoddau neu raglenni gwaith.
- Cymryd cyfrifoldeb dros ddysgu proffesiynol parhaus personol.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol/Ganolfan Iaith yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Cysylltiadau:
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- ryngweithio ar lefel broffesiynol gyda chydweithwyr gan sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol er mwyn hyrwyddo defnydd o egwyddorion trochi llwyddiannus yng Ngwynedd.
- gydweithio'n agos ag Uwch gymhorthydd ar y safle er mwyn sicrhau addysg o'r safon uchaf i'r disgyblion sy'n mynychu'r Ganolfan.
Amgylchiadau Arbennig
Bydd gofyn teithio i ysgolion y sir yn wythnosol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi