MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON
(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)
Yn Eisiau : 1af Medi, 2026
Rheolwr Busnes a Chyllid
Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am berson brwdfrydig a blaengar i gymryd cyfrifoldeb am weinyddiad effeithiol yr ysgol, i reoli cyllideb ddirprwyedig yr ysgol ac i weithio'n rhagweithiol mewn partneriaeth â'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau'r ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol a gweinyddol o safon uchel, sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur ynghyd â phrofiad/dealltwriaeth o reoli cyllideb.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa PS1 pwyntiau 29 - 31 (£39,862 - £41,771 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru .
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams.syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD GWENER, 10 ORFFENNAF 2026.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
Mae Rheolwr Busnes Ysgol Syr Hugh Owen yn aelod allweddol o'r Uwch Dîm Rheoli, yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i sicrhau defnydd effeithiol o adnoddauariannol, dynol ac eiddo er mwyn cefnogi'r Cynllun Gwella Ysgol (CDY). Mae'r swydd yn gyfrifol am reoli cyllid, adnoddau safle ac iechyd a diogelwch, gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol i sicrhau fod y safle'n ddiogel, cynaliadwy ac yn cefnogi ethos cynhwysol yr ysgol.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Arweinyddiaeth Strategol
- Aelod o'r UDRh, yn cyfrannu at benderfyniadau strategol ac yn cynghori ar faterion ariannol, eiddo ac adnoddau.
- Cyflwyno adroddiadau a chyngor i'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu ar adnoddau a chyllid.
- Sicrhau fod polisïau a gweithdrefnau busnes yn cefnogi blaenoriaethau CDY ac ethos cynhwysol yr ysgol.
Cyllid
- Arwain ar gynllunio a rheoli cyllideb yr ysgol, gan sicrhau cydymffurfiaeth statudol.
- Paratoi adroddiadau monitro i'r Pennaeth a'r Pwyllgor Cyllid/Llywodraethol.
- Sicrhau defnydd effeithiol o grantiau a ffrydiau incwm allanol (e.e., PYD, ADY).
- Rheoli contractau ariannol a sicrhau gwerth am arian drwy gaffael a thendro.
Adnoddau Dynol
- Goruchwylio staff gweithredol: gofalwyr, glanhawyr, technegwyr, goruchwylwyr amser cinio.
- Rheoli prosesau penodi, perfformiad, absenoldeb a datblygiad proffesiynol ar gyfer y timau hyn.
- Sicrhau cofnodion cyfredol ar hyfforddiant statudol, iechyd a diogelwch a lles staff.
- Cynghori'r Pennaeth ar faterion disgylbu, perfformiad a chwynion sy'n berthnasol i'r timau hyn.
Rheolaeth a Goruchwyliaeth
- Monitro safonau glanhau, cynnal a chadw ac arlwyo.
- Goruchwylio contractau gwasanaeth (e.e., glanhau, arlwyo, trafnidiaeth).
- Sicrhau trefniadau diogel a chydymffurfio ar draws y safle.
- Cefnogi'r Pennaeth i sicrhau fod yr adeiladau'n addas i ddysgu ac yn gwasanaethu'r gymuned.
Iechyd, Diogelwch ac Eiddo
- Gweithredu fel Swyddog Iechyd a Diogelwch a Swyddog Tân yr ysgol.
- Rheoli asesiadau risg, systemau brys a pholisïau diogelwch.
- Cydweithio'n rheolaidd gyda'r Adran Eiddo (Cyngor Gwynedd) ar brosiectau cynnal a chadw a chydymffurfiaeth adeiladau.
- Monitro gwaith contractwyr ac adrodd i'r Pennaeth ar safonau a chydymffurfiaeth.
Cefnogi Llywodraethu
- Paratoi dogfennau ariannol a threfniadol ar gyfer y Corff Llywodraethu, arolygiadau Estyn a Llywodraeth Cymru.
- Darparu cyngor strategol ar reolaeth adnoddau a chyllid i'r Llywodraethwyr.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol a pholisïau'r ysgol.
- Cefnogi ethos dwyieithog yr ysgol a'i rôl ganolog yn y gymuned.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill ar gais y Pennaeth.
Gofynion Allweddol
- Cymwysterau rheoli busnes/ariannol (AAT, ILM, CIPFA neu gyfwerth).
- Profiad o reoli cyllid ac adnoddau mewn sefydliad cymhleth.
- Profiad o reoli staff gweithredol (e.e., gofalwyr, glanhawyr, technegwyr).
- Gwybodaeth fanwl o iechyd a diogelwch, rheoli contractau a systemau busnes ysgol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn Gymraeg a Saesneg.
- Gallu arwain yn strategol a gweithio'n effeithiol fel aelod o'r UDRh.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi