MANYLION.
  • Lleoliad: Llangadfan,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Cwm Banwy)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Cwm Banwy)
Swydd-ddisgrifiad

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £13.45 yr awr.

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

SWYDD - CYNORTHWYYDD ADDYSGU (Lefel 2)
16 awr yr wythnos (gyda phosibilrwydd o oriau ychwanegol)
Cytundeb 2 flynedd i ddechrau.
Ein Gweledigaeth
Gyda'n gilydd yn lliwio'r byd!
Rydym yn chwilio am gynorthwyydd sy'n weithgar a fydd yn sicrhau disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd ein cynorthwyydd dosbarth yn gweithio'n galed fel rhan o dîm yr ysgol, yn benderfynol o gynorthwyo a sicrhau'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn mewn modd creadigol, deinamig ac arloesol. Mae'r ysgol yn darparu cwricwlwm cyffrous sy'n tanio dychymyg ac ennyn diddordeb y dysgwyr trwy gynnig profiadau cyfoethog sy'n sicrhau dysgu pwrpasol ac ymarferol.
Arolygiad Estyn: Adroddiad arolygiad Ysgol Cwm Banwy 2024
Mae corff llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi cynorthwyydd brwdfrydig, ymroddedig ac ysgogol i ymuno â'n hysgol Eglwysig, Gymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol gyda mi fel pennaeth. Cysylltwch drwy anfon e-bost at pennaeth@cwmbanwy.powys.sch.uk neu
ffoniwch yr ysgol ar 01938 820226.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth, Gorffennaf 6ed
Dyddiad llunio rhestr fer: Dydd Mawrth, Gorffennaf 7fed
Dyddiad cyfweliad: Dydd Mawrth, Gorffennaf 14eg
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd,
Betsan Llwyd
Pennaeth