MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Cerddoriaeth - Ysgol Ardudwy

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL ARDUDWY, HARLECH

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 335 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Ionawr 2027 (neu cyn gyntaf a phosib)

ATHRO/ ATHRAWES CERDDORIAETH

(Parhaol - Llawn Amser)

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person ymroddgar a brwdfrydig i addysgu Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Angela Walters, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 8 GORFFENNAF 2026

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd
  • Sicrhau bod plant a phobl dalgylch Ardudwy yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion o dan ei g/ofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
  • Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a'r UDRh ac athrawon eraill mae'r athro dosbarth yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.

Cyfrifoldeb am Adnoddau
  • Adnoddau dysgu, arwain cymorthyddion

Prif Ddyletswyddau

Amodau

Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae'n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau'r ysgol.

Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth' , fel y gwelir yn yr Atodiad. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.

Cyfrifoldebau Proffesiynol

Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
  • Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw'r person priodol at unrhyw broblem.
  • Cynnig addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.
  • Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, trefnu arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
  • Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cyfrannu tuag at raglenni gwaith, gan gynnwys paratoi disgyblion ar gyfer profion neu arholiadau mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
  • Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
  • Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd am bob agwedd o waith y cwrs o fewn y pwnc.
  • Cyfrannu tuag at gynlluniau gwaith, cynhyrchu gwaith a deunyddiau dysgu ac addysgu o fewn y pwnc.
  • Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i'r dosbarth a'u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
  • Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w g/ofal hyd eithaf ei allu.
  • Gosod a marcio gwaith y disgyblion gyda adborth, gan ddilyn Polisi Asesu ac Asesu ar gyfer Dysgu yr Ysgol. .
  • Cynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr Ysgol, sydd wedi ei nodi o fewn Polisi Ymddygiad a Lles.
  • Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol.
  • Cyfrannu at drefniadau'r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion, fel sydd wedi nodi yn Mholisi Asesu ac Asesu ar gyfer Dysgu yr Ysgol.
  • Cymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.
  • Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy'n berthnasol i'r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.
  • Cynghori, arwain a chydweithio â'r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â datblygu rhaglenni gwaith â darparu deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.
  • Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy'n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
  • Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau o fewn eu grwpiau dysgu.
  • Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
  • Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau yn unol â threfniadau'r ysgol.
  • Mynychu nosweithiau rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
  • Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.
  • Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
  • Hybu blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol presennol.
  • Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu'r ysgol i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
  • Cydweithio'n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
  • Cyfrannu gyda'r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Cefnogi dyheuadau yr Ysgol er mwyn lleihau allyriadau carbon yr Ysgol ac annog disgyblion o fewn eu gwersi i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr Ysgol.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin, drwy wrnado ar yr hyn sydd gan y plentyn i'w ddweud, cofnodi lawr y pryder drwy drefn yr Ysgol, cyfeirio ymlaen i'r Person Dynodedig. (Canllawiau llawn o'r drefnu diogelu ar gyfer disgyblion i'w canofod yn y llawlyfr staff).
  • Cynnal a chadw at ddisgwyliadau tiwtor dosbarth fel sydd wedi ei nodi o fewn disgrifiad rôl Y Tiwtor Dosbarth.

Cysylltiadau:

Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:
  • rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
  • gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
  • rhyngweithio ar lefel broffesiynol gyda asiantaethau allanol, gan sefyldu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er mwyn trefnu cyswllt gyda'r arweinywr pynciol er mwyn datblygu'r pwnc/pynciau maent yn gyfrifol amdanynt, gan fonitro a chefnogi unrhyw faterion gweithredu sydd yn codi.

Amgylchiadau Arbennig
  • Gweithio tu allan i oriau ysgol arferol yn ôl y gofyn, o fewn y cyfanswm oriau sydd wedi ei nodi yn ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

Mae'r uchod yn disgrifio`r ffordd y disgwylir i`r deilydd weithredu a chwblhau y dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio`r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion yr Ysgol, bydd yr addasiadau yn dilyn trafodaeth rhwng deilydd y swydd ar Pennaeth.

Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth

ADDYSGEG

Mireinio Addysgu
  • Rheoli'r amgylchedd dysgu
  • Asesu
  • Gwahaniaethu
  • Cofnodi ac Adrodd
  • Cynnwys Partneriaid mewn dysgu.

Hyrwyddo Dysgu
  • Pedwar diben i ddysgwyr
  • Ymelwa ar ddisgyblaethau pynciol mewn meysydd dysgu
  • Profiadau dysgu cyfunol
  • Cyd-destunau bywyd go iawn dilys
  • Dilyniant mewn dysgu
  • Themâu trawsgwricwlaidd.

Dylanwadu ar ddysgwyr
  • Herio a disgwyliadau
  • Gwrando ar ddysgwyr
  • Dysgwyr yn arwain dysgu
  • Ymdrech barhaus a gwydnwch dysgwyr
  • Myfyrio ar ddysgu
  • Deilliannau dysgu a lles.

CYDWEITHREDU
  • Ceisio cyngor a chymorth
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
  • Cefnogi a datblygu eraill
  • Galluogi gwelliannau.

DYSGU PROFFESIYNOL
  • Darllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil
  • Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
  • Dysgu proffesiynol parhaus
  • Sgiliau Cymraeg.

Arloesi
  • Cynnig arbenigedd
  • Datblygu technegau newydd
  • Gwerthuso effaith newid mewn ymarfer.

ARWEINYDDIAETH
  • Cymryd cyfrifoldeb personol
  • Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
  • Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
  • Cefnogi rolau arweinyddiol ffurfiol.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi