MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cynhwysiant Lefel 4 - Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Gyfun 11 - 18 oed, 742 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Medi 1af, 2026

Cymhorthydd Cynhwysiant (Lefel 4)

Cytundeb Parhaol

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.

Cytundeb 39 wythnos, tymor Ysgol a dyddiau Hyfforddiant yn Unig

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Gweler y swydd ddisgrifiad yn y pecyn hysbysebu am ragor o fanylion.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (sef £24,840 - £27,436) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Mr Dylan Jones, Rhif ffôn: 01286 672381

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno i'r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 9 Y BORE, DYDD MERCHER, 8fed O ORFFENNAF 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Profiad
  • Profiad o weithio gyda phlant o'r oedran briodol.
  • Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.

Cymwysterau
  • Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog - cyfwerth ag NVQ Lefel 2 mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
  • Cyfarfod â safonau Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth.

Gwybodaeth/Sgiliau
  • Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau/côd ymarfer/deddfwriaeth berthnasol.
  • Gwybodaeth weithio o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a rhaglenni dysgu perthnasol eraill.
  • Deall egwyddorion datblygiad plentyn a'r broses ddysgu ac, yn arbennig, rwystrau i ddysgu.
  • Y gallu i gynllunio gweithredu effeithlon ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni.
  • Deall ystod y gwasanaethau/darparwyr cynhaliaeth.
  • Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu.
  • Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
  • Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dim, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheini.

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS SWYDD

O dan gyfundrefn gytunedig o oruchwyliaeth, cymryd rhan arweiniol o fewn yr ysgol mewn ymateb i anghenion disgyblion sydd angen cymorth arbennig i oresgyn rhwystrau i ddysgu.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cefnogaeth i Ddisgyblion
  • Cymryd rhan arweiniol mewn rheoli a chyflwyno cefnogaeth fugeiliol i ddisgyblion.
  • Rheoli goruchwyliaeth disgyblion a eithrir o amserlen arferol, neu nad ydynt fel arall yn gweithio i amserlen arferol.
  • Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a darparu cyngor i gynorthwyo yn eu datblygiad cymdeithasol
  • Ymgymryd ag asesiadau cyfansawdd o'r disgyblion i benderfynu ar y rhai sydd angen cymorth arbennig.
  • Cynorthwyo'r athro/athrawes gyda datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol/Ymddygiad/Cynnal/Mentora.
  • Cymryd rhan arweiniol mewn darparu cefnogaeth i ddisgyblion gydag anghenion arbennig a trefnu a darparu sesiynau llythrennedd a rhifedd.
  • Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda disgyblion gan weithredu fel model rôl.
  • Trefnu a datblygu trefniadau mentora un i un gyda disgyblion a darparu cefnogaeth i ddisgyblion gofidus.
  • Cymryd rhan arweiniol mewn rheoli trosglwyddo disgyblion yn gyflym/effeithlon drwy gyfnodau ac i integreiddio'r rhai sydd wedi bod yn absennol.
  • Darparu gwybodaeth a chyngor i alluogi disgyblion i wneud dewisiadau am eu dysgu/ymddygiad/presenoldeb.
  • Herio a chymell disgyblion, hybu ac atgyfnerthu hunan-barch.
  • Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd, cyflawniad, ymddygiad, presenoldeb ayyb.

Cefnogaeth i Athrawon
  • Rheoli cyswllt gydag ysgolion y dalgylch a chyrff perthnasol eraill i gasglu gwybodaeth am ddisgyblion.
  • Cefnogi mynediad y disgyblion i ddysgu yn defnyddio strategaethau, adnoddau ayyb priodol.
  • Gweithio gyda staff eraill mewn cynllunio, gwerthuso ac addasu gweithgareddau dysgu fel y bo'n briodol.
  • Monitro a gwerthuso ymateb a chynnydd disgyblion yn erbyn cynlluniau gweithredu drwy arsylwi a chofnodi cynlluniedig.
  • Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion fel bo angen, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol.
  • Rheoli cyfundrefnau a phrosesau cadw cofnodion.
  • Cymryd rhan arweiniol mewn datblygu a gweithredu strategaethau rheoli ymddygiad priodol.
  • Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/gofalwyr gan gyfnewid gwybodaeth, denu eu cefnogaeth i bresenoldeb, mynediad a dysgu eu plentyn a chefnogi cysylltiadau cartref ysgol a chymunedol.
  • Cymryd rhan arweiniol mewn datblygu, gweithredu a monitro cyfundrefnau perthynol i bresenoldeb ac integreiddio e.e. cofrestru, triwantiaeth, cyfundrefnau bugeiliol ayyb.
  • Cefnogaeth weinyddol e.e. ymdrin â gohebiaeth, casglu/dadansoddi/adrodd ar bresenoldeb, gwaharddiadau ayyb, gwneud galwadau ffon ayyb.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
  • Gweithredu gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu cytun, gan addasu gweithgareddau yn ôl ymateb anghenion y disgybl.
  • Ceisio gwybodaeth mewn perthynas â'r ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolyn, a defnyddio'r gweithgareddau er mwyn darparu cefnogaeth i'r disgyblion i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.
  • Penderfynu'r angen am offer, cynlluniau ac adnoddau arbenigol, eu paratoi a'u defnyddio i gefnogi disgyblion.

Cefnogaeth i'r Ysgol
  • Cydymffurfio a chynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau perthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, gan adrodd am bob pryder i'r person priodol.
  • Bod yn ymwybodol o wahaniaethau a'u cefnogi a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Adnabod hunan gryfderau a meysydd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
  • Bod yn gyfrifol am ddarparu gweithgareddau dysgu y tu allan i'r ysgol o fewn canllawiau a sefydlwyd gan yr ysgol.
  • Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i'r ysgol sy'n cadarnhau ac ymestyn gwaith yr ysgol.
  • Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill fel bo'r gofyn.

Cyfrifoldebau Rheoli Llinell Lle bo'n Briodol
  • Arwain cymorthyddion addysgu eraill.
  • Bod yn gyswllt rhwng y rheolwr/yr athrawon a'r cymorthyddion addysgu.
  • Ymgymryd â ranwytho/gwerthuso/hyfforddi/mentora cymorthyddion addysgu eraill.
  • Gyd-gynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda'r CADY a'r cymorthyddion eraill.
  • Cynrychioli cymorthyddion addysgu mewn cyfarfodydd staff addysgu/rheoli/priodol arall.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi