MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogi Dysgu, Lefel 2 - Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Gyfun 11 - 18 oed, 742 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Medi 1af, 2026

Cymhorthydd Cefnogi Dysgu, Lefel 2

Cytundeb Parhaol

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos.

Cytundeb 39 wythnos, tymor Ysgol a dyddiau Hyfforddiant yn Unig

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Gweler y swydd ddisgrifiad yn y pecyn hysbysebu am ragor o fanylion.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5-6 (sef £19,346 - £19,653) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Mr Dylan Jones, Rhif ffôn: 01286 672381

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno i'r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 9 Y BORE, DYDD MERCHER, 8fed O ORFFENNAF 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
  • Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
  • Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm.
  • Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
  • Brwdfrydig a hyblyg
  • Personoliaeth Ddigynnwrf
  • Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
  • Sgiliau rhif/llythrennedd da.
  • NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.

DYMUNOL
  • Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'
  • Hyfforddiant cymorth cyntaf
  • Hyfforddiant Amddiffyn Plant
  • Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
  • Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.

DYMUNOL
  • Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant
  • Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth
  • Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
  • Deunydd effeithlon o TGaCh
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
  • Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith. (Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS SWYDD
  • Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
  • Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
  • Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cefnogaeth i Ddisgyblion
  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
  • Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
  • Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
  • Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
  • Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
  • Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
  • Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
  • Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.

Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
  • Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
  • Cysylltu â'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
  • Cysylltu â'r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
  • Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
  • Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
  • Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
  • Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
  • Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
  • Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytøn.
  • Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
  • Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

Cefnogaeth i'r Ysgol
  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
  • Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
  • Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.

Datblygiad Cyfatebol Eraill
  • Yn achlysurol bydd angen ymgymryd â dyletswyddau eraill cyffelyb ar gais y Pennaeth a/neu Cyd-Gysylltydd ADY.

DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD

Mae'r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o'r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.

Bydd hyfforddiant ar gael i'r Cymhorthydd drwy'r dulliau canlynol yn bennaf:
  • mynychu cyrsiau sirol.
  • mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol.
  • cysgodi a chyd-weithio â staff eraill.
  • mentora gan y Cyd-Gysylltydd ADY.

DYLETSWYDDAU PENODOL ERAILL
  • Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.

SYLWER:
  • Tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.
  • Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
  • Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
  • Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i'r swydd a'r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy'n datblygu cyflwr sy'n anablu.
  • Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'n gymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi