MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4 (Goruchwyliwr Gwersi) - Ysgol Brynrefail
Cyngor Gwynedd
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 - 18 oed, 742 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Medi 1af, 2026
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 4 (Goruchwyliwr Gwersi)
CYTUNDEB PARHAOL
Prif ffocws y rol fydd cyflenwi dros absenoldebau tymor byr athrawon (Blwyddyn 7 hyd at Flwyddyn 11).
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos.
(39 wythnos y flwyddyn, tymor yr ysgol + 5 diwrnod Hyfforddiant mewn Swydd).
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £21,819 - £24,099) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Mr Dylan Jones, Rhif ffôn: 01286 672381
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan y Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost: sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 9 YB, DYDD MERCHER, 8fed O ORFFENNAF 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
Profiad
- Profiad o weithio gyda phlant o'r oedran briodol.
- Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion ychwanegol.
Cymwysterau
- Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog - cyfwerth ag NVQ Lefel 2 mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
- Cyfarfod â safonau Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth.
Gwybodaeth/Sgiliau
- Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau/côd ymarfer/deddfwriaeth berthnasol.
- Gwybodaeth weithio o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a rhaglenni dysgu perthnasol eraill.
- Deall egwyddorion datblygiad plentyn a'r broses ddysgu ac, yn arbennig, rwystrau i ddysgu.
- Y gallu i gynllunio gweithredu effeithlon ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni.
- Deall ystod y gwasanaethau/darparwyr cynhaliaeth.
- Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu.
- Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
- Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dim, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheini.
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS SWYDD
Gweithio dan arweiniad staff addysgu/uwch staff ac o fewn system oruchwylio a gytunwyd, i gyflwyno rhaglenni gwaith a gytunwyd gydag unigolion/grwpiau, yn y dosbarth neu'r tu allan. Goruchwylio dosbarthiadau cyfan pan fydd athrawon yn absennol yn y tymor byr. Gall hyn gynnwys rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol a bydd yn golygu cynorthwyo'r athro yn y cylch cynllunio cyfan, a rheoli/baratoi adnoddau. Bydd y prif ffocws ar gadw trefn a chadw disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Dros Dro ymateb i gwestiynau a chynorthwyo'r disgyblion yn gyffredinol i ymgymryd â gweithgareddau a bennwyd.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Cefnogi Disgyblion
- Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/ddysgu) i gefnogi disgyblion. • Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Rhaglenni Addysg Unigol.
- Sefydlu perthynas gwaith cynhyrchiol gyda disgyblion, gan weithredu fel delfryd ymddwyn a phennu disgwyliadau uchel.
- Hyrwyddo cynhwysiant a derbyn yr holl ddisgyblion o fewn y dosbarth.
- Cefnogi disgyblion yn gyson wrth gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
- Annog disgyblion i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol gydag eraill a chynnwys yr holl ddisgyblion yn y gweithgareddau.
- Hyrwyddo annibyniaeth a defnyddio strategaethau i gydnabod a gwobrwyo llwyddiannau hunanddibyniaeth.
- Rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyrhaeddiad.
Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
- Gweithio gyda'r athro i sefydlu amgylchfyd dysgu priodol.
- Gweithio gyda'r athro i gynllunio gwersi, arfarnu ac addasu cynlluniau gwersi/waith fel y bo'n briodol.
- Monitro ac arfarnu ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu arsylwi a chofnodi mewn perthynas ag amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
- Rhoi adborth gwrthrychol a chywir ac adroddiadau fel y bo angen i'r athro ar gyrhaeddiad, cynnydd y disgybl a materion eraill, gan sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael.
- Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd gyda'r athro, gan gyfrannu tuag at adolygiadau systemau/cofnodion fel y gofynnir am hynny.
- Marcio gwaith disgyblion a chofnodi'n gywir gyrhaeddiad/cynnydd.
- Hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol, agweddau ac ymddygiad da disgyblion, gan ddelio gydag anghydfod yn gyflym ac yn unol â pholisi'r ysgol ac annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain.
- Cysylltu'n sensitif ac effeithiol gyda rhieni/ofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro o fewn eich rôl/cyfrifoldeb a chymryd rhan mewn sesiynau adborth/cyfarfodydd gyda rhieni yn unol â chyfarwyddyd.
- Rhoi ac asesu profion arferol ac arolygu arholiadau/profion.
- Rhoi cefnogaeth glerigol/gweinyddol gyffredinol e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu dalennau gwaith ar gyfer gweithgareddau ac ati.
Cefnogi'r Cwricwlwm
- Gweithredu gweithgareddau/rhaglenni dysgu a gytunwyd, gan addasu gweithgareddau yn ôl ymatebion/anghenion disgyblion.
- Cyflwyno strategaethau lleol a chenedlaethol e.e. llythrennedd, rhifedd, CA3, blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o'r cyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
- Cefnogi defnyddio TGCh yn effeithiol mewn gweithgareddau dysgu a datblygu galluoedd ac annibyniaeth disgyblion o ran ei ddefnyddio.
- Helpu disgyblion i gyrchu gweithgareddau dysgu trwy gefnogaeth arbenigol.
- Canfod yr angen am, paratoi a chynnal offer ac adnoddau arbenigol a chyffredinol.
Cefnogi'r Ysgol
- Ymgymryd cynllunio a threfnu gofynion clawr ystafell ddosbarth yn ddyddiol.
- Cynllunio a threfnu'r dosbarth yn ôl anghenion cyflenwi yn ddyddiol.
- Cydymffurfio gyda pholisïau a threfniadau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, adrodd am unrhyw bryderon i'r person priodol.
- Bod yn ymwybodol o a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael yr un cyfle i ddysgu a datblygu.
- Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
- Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill, mewn cysylltiad â'r athro, i gefnogi cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion.
- Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill fel y bo gofyn.
- Cydnabod eich cryfderau a'ch meysydd o arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
- Rhoi arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo gyda hyfforddi a datblygu staff fel y bo'n briodol.
- Ymgymryd â gwaith goruchwylio a gynlluniwyd mewn perthynas â gweithgareddau dysgu disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
- Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau'r ysgol fel y bo gofyn.
GORUCHWYLIO/RHEOLI POBL
- Yn gyfrifol am oruchwylio'r plant.
GWYBODAETH, SGILIAU, HYFFORDDIANT A PHROFIAD
- Profiad o weithio gyda phlant o'r oedran perthnasol.
- Sgiliau rhifedd/llythrennedd rhagorol.
- NVQ3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol.
- Hyfforddiant mewn strategaethau addysgu perthnasol e.e. llythrennedd a/neu faes cwricwlwm neu ddysgu penodol e.e. dwyieithrwydd, iaith arwyddion, dyslecsia, TGCh, Mathemateg, Saesneg CACHE ac ati.
- Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.
- Medru defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi dysgu.
- Defnyddio offer technegol arall - fidio, llungopïwr.
- Gwybodaeth ymarferol o'r cwricwlwm cenedlaethol/cyfnod Sylfaen a rhaglenni/strategaethau addysgu perthnasol eraill.
- Deall egwyddorion datblygiad plant a'r prosesau dysgu.
- Medru hunan-arfarnu anghenion dysgu a chwilio am gyfleoedd hyfforddi.
- Medru ymwneud yn dda â phlant ac oedolion.
- Gweithio'n adeiladol fel aelod o dim, deal rolau a chyfrifoldebau'r dosbarth a'ch sefyllfa chi mewn perthynas â'r rhain.
ARCHWILIADAU CYFLOGAETH/GOFYNION PENODOL
- Gwiriad Gwasanaeth Datgelu ac Atal, Archwiliad Iechyd, Geirda Boddhaol.
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
- Mae'r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o'r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.
- Bydd hyfforddiant ar gael i'r Cymhorthydd drwy'r dulliau canlynol yn bennaf:
- mynychu cyrsiau sirol.
- mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol.
- cysgodi a chyd-weithio â staff eraill.
- mentora gan y Cyd-gysylltydd ADY.
DYLESTSWYDDAU PENODOL ERAILL
- Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.
SYLWER
- Tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.
- Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
- Disgwylir i deilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
- Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i'r swydd a'r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy'n datblygu cyflwr sy'n anablu.
- Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'n gymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi