MANYLION.
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £64,639 - £72,250 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Timau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £64,639 - £72,250 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Ffion Edwards Ellis ar ffionedwardsellis@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679007.

Rhagwelir cynnal cyfweliadau cyn 18/07/2026

Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 06/07/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, gwneud penderfyniadau a chyflwyno gweledigaeth glir;

Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf.

Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser.

DYMUNOL

-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Cymhwyster lefel gradd.

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ym maes ADY a Chynhwysiad

Dealltwriaeth o Ddeddfwriaeth ADY a Tribiwnlys Cymru (2018).

DYMUNOL

-

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o arwain, ysgogi a rheoli staff

Profiad llwyddiannus o addysgu

Profiad o gynllunio strategol ac arwain newid.

DYMUNOL

-

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol a chyfreithiol sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau yn y maes ADY a Chynhwysiad

Y gallu i weithredu o fewn fframwaith o reoliadau a dehongli a chymhwyso deddfwriaeth berthnasol

Dealltwriaeth gadarn o'r ethos a'r gwerthoedd sy'n sicrhau ysgolion cynhwysol a llwyddiannus

Person gyda'r gallu i gyflawni cenhadaeth, creu gweledigaeth a sefydlu cyfeiriad strategol

Y gallu i reoli newid a chynllunio dyfodol gwasanaethau.

DYMUNOL

-

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
  • Gweithredu fel Reolwr Gwasanaeth ar ran Adran Addysg Gwynedd gan gyfrannu at ddatblygiad disgyblion oddi fewn a thu allan i ysgolion gan gyd weithio â gwasanaethau plant cysylltiedig, i'r perwyl hwnnw. Cyfrannu'n sylweddol at brif nod yr Awdurdodau sef gofalu bod ein holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial llawn.
  • Arwain ar faes Arbennigol Proffesiynol o fewn y Gwsanaeth ADY a Chynhwysiad.
  • Bydd efo cyfrifoldeb am reoli cyllideb dydd i ddydd gwasanaethau penodol.
  • Cymryd rhan mewn arolygiadau ffurfiol ac hefyd yn gyfrifol am ymweld yn rheolaidd ag ysgolion fel rhan o drefn rhagweithiol gan adrodd ar gryfderau a meysydd sydd angen sylw.
  • Cynorthwyo ysgolion yn eu hunan arfarnu eu hunain
  • Datblygu a gweithredu rôl yr awdurdodau lleol o ran codi safonau drwy herio a chefnogi ysgolion.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
  • Cyfrifoldeb am Staff, cyllid ac adnoddau'r canlynol:
  • Tim Blynyddoedd Cynnar
  • Tim ABC
  • Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio
  • Tîm Nam Synhwyraidd/ Meddygol Corfforol
  • Tîm ADY Penodol
  • Canolfannau ADY.

Prif Ddyletswyddau.

CYFRIFOLDEBAU RHEOLI

Arwain a Rheoli Pobl
  • Ysgogi, annog a grymuso eich staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a thrwy greu awyrgylch o barch, cydweithio a chymryd risgiau. Rhoi cyfeiriad ac adborth i'ch staff trwy drosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol wrth ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth.

Rheoli Adnoddau
  • Cynllunio a monitro er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon a gwella parhaus. Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd.

Rheoli Ansawdd
  • Ymweld yn rheolaidd ag ysgolion fel rhan o drefn rhagweithiol gan adrodd ar gryfderau a meysydd sydd angen sylw yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion efo Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Perfformiad a Datblygiad
  • Adnabod cryfderau a meysydd datblygu eich staff trwy oruchwyliaeth gyson a phroses werthuso'r Cyngor. Canolbwyntio ar wella perfformiad drwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad. Gweithredu a datblygu cynlluniau busnes sy'n adlewyrchu hyn.

Datrys Problemau
  • Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.

Cyfathrebu
  • Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy'n gwerthfawrogi teimladau eraill.

Ymwybyddiaeth o'r cyd-destun
  • Deall a gweithio'n effeithiol o fewn fframwaith gwleidyddol y Cyngor a bod yn ymwybodol o'r materion sy'n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o'r arferion gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Hunanreoli
  • Dangos esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, gonest a sefydlog a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd a'ch datblygiad eich hun. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol.

PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL

Tim Rheoli'r Adran ADYaCh
  • Cydweithio efo'r Pennaeth Cynorthwyol ADY a CH er mwyn penu a chryfhau cyfeiriad strategol yr Adrannau a darparu arweiniad i'r swyddogion.
  • Cyfrannu i'r grwpiau strategol cynradd ac uwchradd.

Tîm Rheoli'r Adran Addysg
  • Arwain trafodaethau ar agweddau penodol o Gynllun Busnes yr Adrannau.
  • Cyfrannu at ystod eang o ddatblygiadau strategol a drafodir gan yr aelodau gan arwain a gweithredu fel bo'r galw.
  • Cyflwyno meysydd penodol i'r aelodau ac arwain trafodaethau.
  • Cyfrannu at y gweithdrefnau hunan-arfarnu adrannol gan hybu a meithrin diwylliant o adolygu ansawdd gwasanaethau a pherfformiad yn rheolaidd.
  • Arwain y gwaith datblygol a ddeillia o'r uchod.

Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gweithredu fel Rheolwr sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros y maes cymhleth hwn gan barhau i'w drefnu a'i ddatblygu ar y cyd a'r Pennaeth Cynorthwyol ADYaCh er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion ein hysgolion.
  • Gweithredu fel rheolwr i Arweinyddion Tim y timau ADY gan gynnwys arweiniad proffesiynol i athrawon o fewn y gwasanaeth.
  • Rheoli cyllideb dydd i ddydd sydd ynghlwm â'r maes hwn.
  • Sicrhau ansawdd y ddarpariaeth sydd yn cael ei ddarparu o fewn y Canolfannau ADY, a sicrhau bod y ddarpariaeth sydd yn cael ei gynnig yn cyd-fynd a'r angen.
  • Rheoli a chyfrannu at ddatblygiad proffesiynol y timau canolog a swyddogion penodol o fewn y gwasanaethau ADY.
  • Cyfrannu at yr wybdoaeth angenrheidiol yn ol yr angen mewn prosesay datrys anghydfod a ac apeliadau gerbron y Tribiwnlys ADY.
  • Gwneud arfarniadau rheolaidd o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Gwasanaethau ADY perthnasol, a chynnydd y dysgwyr sydd yn derbyn mewnbwn.
  • Sicrhau bod y Gwasanaeth bob amser yn ymateb i ofynion ei defnyddwyr.
  • Ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol pellach a fydd yn angenrheidiol i weithrediad effeithiol ac effeithlon y Gwasanaeth Addysg yn unol â chynllun datblygu proffesiynol.
  • Bod yn barod i wireddu datblygiadau yn y maes hwn yn lleol, ar lefel Gwynedd ac oddi fewn i Gonsortiwm y Gogledd.
  • Dirprwyo i'r Pennaeth Cynorthwyol ADY a CH i gynrychioli'r Awdurdodau yn y trafodaethau datblygol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
  • Cadeirio a hyrwyddo gwaith grwpiau a gweithgorau penodol.
  • Dirprwyo i'r Pennaeth Cynorthwyol ADY a CHyn ol yr angen er mwyn sicrhau cydweithio efo Rheolwyr eraill i gyd-ddatblygu arweiniad strategol ymhob agwedd o waith aml asiantaeth.

Corfforaethol
  • Cydweithio efo'r Pennaeth Cynhorthwyol ADY a CH yn y meysydd corfforaethol sydd yn ymwneud a phlant a phobl ifanc.
  • Ymateb i geisiadau i gynrychioli'r Adrannau ar bwyllgorau/gweithgorau
  • Cyfrannu at weithgorau a chyfarfodydd a sefydlir gan Awdurdodau Gwynedd a Môn i bwrpasau arbennig ac i strategaethau'r ddau Awdurdod mewn perthynas â datblygiadau ym maes ADY.
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau i sylw'r Pennaeth Cynorthwyol a fydd yn ei dro i sylw pwyllgorau'r Cyngorau gan gynnwys Pwyllgorau Craffu fel bo'n briodol.
  • Cydweithio efo'r Aelodau Cabinet/ Portffolio a'r Aelodau Etholedig, a chynnig arweiniad a chyngor proffesiynol yn ol y gofyn.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Diogelu ac Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol ag arweiniad Canllawiau Diogelu Plant Cymru Gyfan, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch Y Cyngor
  • Gweithredu yng nghyd-destun polisi a gweithdrefnau'r Cyngor o safbwynt Cyfle Cyfartal a Chydraddoldeb.

Dyletswyddau Eraill
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.

Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

-

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi