MANYLION.
  • Lleoliad: Llandudno,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes (hyfforddi fel athro\/athrawes Gynradd) - Ysgol Awel y Mynydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

Ysgol Awel y Mynydd

Athro/Athrawes (hyfforddi fel athro/athrawes Gynradd)

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro/athrawes gynradd cwrs

TAR wedi'i ARIANNU'N LLAWN gan y Brifysgol Agored (rhaglen 2 flynedd)

Contract dros dro hyd at 31/08/2028

Oriau: Llawn Amser

Graddfa Cyflog: Graddfa Athrawon Heb Gymhwyso Pwynt 1-2

(£22,685- £25,322 y flwyddyn)

********************************

Mae Ysgol Awel y Mynydd yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn astudio TAR (SAC) drwy raglen sy'n seiliedig ar gyflogaeth (2 flynedd) sydd wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy ddarpariaeth y Brifysgol Agored. Mae'r ysgol yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at addysgu ac i amrywio'r proffesiwn.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd am newid gyrfa neu raddedigion sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu, hyfforddwyr dysgu neu swyddogion ieuenctid sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa. Croesewir ceisiadau hefyd gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno ag Ysgol Awel y Mynydd, gan y byddai gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol mewn maes dysgu sydd ar flaen y gad o ran datblygiad Cwricwlwm i Gymru ac ymarfer dysgu darllen a ffoneg. Mae gan yr ysgol gymuned unigryw a theimlad teuluol lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a'r staff. Mae elfen gref o gydweithredu a chefnogaeth barod ymhlith y tîm staff, lle mae pob aelod o'r staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl yn llwyddiant a lles ein plant, ein pobl ifanc, a'i gilydd fel oedolion proffesiynol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol ac felly'n gwneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywydau ein pobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deiliad y swydd hon yn derbyn cefnogaeth lawn gan yr ysgol a'i phobl wrth iddynt ddatblygu'n addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN

Gofynion mynediad ar gyfer llwybr cyflogedig TAR y Brifysgol Agored sydd wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar y canlynol, fel isafswm:
  • Safon sy'n cyfateb i radd C TGAU neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
  • Safon sy'n cyfateb i radd C TGAU neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf)
  • Gradd anrhydedd lawn o'r DU (neu gyfwerth). Rhaid i'ch gradd fod â pherthnasedd o leiaf 50% i'r pwnc os ydych am addysgu fel athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). Caiff cymwysterau ychwanegol a phrofiad yn y maes pwnc eu hystyried hefyd. I'r ymgeiswyr sy'n gwneud cais am bwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, gan y gellir ystyried eich cais yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract llawn amser (nid yn ystod tymor yn unig) hyd ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2028, a bydd gofyn iddynt fod yn seiliedig yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Am unrhyw gwestiynau neu ragor o wybodaeth am y rhaglen, anfonwch e-bost at Dîm TAR Cymru: TAR-Cymru@open.ac.uk neu ewch i:

TAR | Tystysgrif Addysg i Raddedigion yng Nghymru | Open University

Mae llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd. Mae'r cynnwys academaidd yn cael ei astudio ar-lein.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd, cysylltwch drwy e-bost: pennaeth@awelymynydd.conwy.sch.uk

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol

Dyddiad cau: 2ail Gorffennaf, 2026

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English