MANYLION.
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £31,300 - £33,123 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Plant Coll Mewn Addysg

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £31,300 - £33,123 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Rydym yn chwilio am berson angerddol ac ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn yr awdurdod lleol yn cael mynediad at addysg addas ac addasadwy. Byddwch yn gweithredu systemau effeithiol i adnabod, olrhain a chefnogi plant sy'n colli addysg neu sydd mewn perygl o wneud hynny.

Mae'r rôl yn chwarae rhan uniongyrchol wrth gyflawni dyletswyddau statudol o dan:
  • Deddf Addysg 1996
  • Deddf Plant 2004
  • Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Blant sy'n Colli Addysg
  • Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026

Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion lles Addysg, Gwasanaeth Addysg dewisol gartref , theuluoedd, ysgolion a gwasanaethau partner i sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn mynd ar goll o'r system addysg yn Ngwynedd.

Swydd am flwyddyn yn y lle cyntaf - 01/09/26- 31/08/27

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Ellen Rowlands ellenrowlands@gwynedd.llyw.cymru / neu 01286 679007

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 O'R GLOCH, 03/07/2026

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu dangos Empathi a sensitifrwydd wrth weithio gyda theuluoedd mewn sefyllfaoedd heriol.
Gonestrwydd a phroffesiynoldeb wrth ddelio â gwybodaeth sensitif.
Gallu gweithio o dan bwysau a rheoli amser yn effeithiol.
Ymagwedd gadarn ond cefnogol wrth sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau cyfreithiol.
Trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd
Hyblygrwydd i deithio o fewn yr awdurdod lleol a rhanbarthol.

DYMUNOL
-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster Lefel 3 neu uwch mewn maes perthnasol (addysg, gwaith cymdeithasol, iechyd, gwasanaethau ieuenctid).
Hyfforddiant diogelu cyfredol neu barodrwydd i'w gwblhau.
Dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth addysg yng Nghymru, gan gynnwys Adran 7 Deddf Addysg 1996.

DYMUNOL
Hyfforddiant CME arbenigol neu brofiad o reoli cronfeydd data addysg.
Hyfforddiant ADY neu ddealltwriaeth o anghenion dysgu ychwanegol.

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd mewn cyd-destun addysg, lles neu gymorth.
Profiad o gydweithio amlasiantaethol gyda gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr heddlu neu ysgolion.
Profiad o reoli llwyth achosion a chynnal cofnodion proffesiynol.
Profiad o weithio gyda dysgwyr nad ydynt mewn addysg amser llawn.
Profiad o waith maes gan gynnwys ymweliadau cartref.
Profiad o ddatrys anghydfodau neu sefyllfaoedd heriol gyda theuluoedd.
Dealltwriaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â phlant sy'n colli addysg (diogelu, cam fanteisio, iechyd meddwl).
Gwybodaeth o brosesau diogelu lleol a chenedlaethol.
Gwybodaeth o systemau addysg Cymru gan gynnwys symudiadau disgyblion, cofrestru a phresenoldeb.

DYMUNOL

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan gynnwys ymdrin ag achosion sensitif.
Sgiliau dadansoddi data a'r gallu i gynnal cofnodion cywir a chyson.
Sgiliau trefnu a rheoli achosion mewn amgylchedd prysur.
Gallu gweithio'n annibynnol a gwneud penderfyniadau proffesiynol.
Sgiliau TG cryf gan gynnwys defnyddio systemau rheoli gwybodaeth addysg.
Sgiliau cyfweld teuluoedd mewn sefyllfaoedd cymhleth neu sensitif.

DYMUNOL
Sgiliau cyflwyno a hyfforddi ar gyfer ysgolion a gwasanaethau partner.

ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn yr awdurdod lleol yn cael mynediad at addysg addas, gan weithredu systemau effeithiol i adnabod, olrhain a chefnogi plant sy'n colli addysg neu sydd mewn perygl o wneud hynny.
• Mae'r rôl yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddyletswyddau statudol o dan
• Ddeddf Addysg 1996,
• Deddf Plant 2004
• Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Blant sy'n Colli Addysg
• Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer


Prif Ddyletswyddau.
Adnabod a Lleoli Plant sy'n Colli Addysg
• Dadansoddi data o amrywiaeth o ffynonellau (ysgolion, iechyd, mewnfudo, gwasanaethau cymdeithasol, tai, yr heddlu) i nodi plant nad ydynt ar gofrestr ysgol.
• Croesgyfeirio gwybodaeth â chofnodion presenoldeb, cofrestriadau ysgolion, a symudiadau mewn/allu o'r ardal.
• Ymchwilio i bob achos lle mae plentyn wedi diflannu o gofrestr ysgol heb drefniadau addysg clir.
• Cynnal ymweliadau cartref pan fo angen i wirio lleoliad a threfniadau addysg plentyn.
Rheoli a Datblygu'r Gronfa Ddata CME
• Sicrhau bod pob plentyn sy'n dod i sylw'r awdurdod yn cael ei gofnodi'n gywir yn y gronfa ddata statudol.
• Diweddaru statws pob achos yn rheolaidd (e.e., "wedi'i leoli", "mewn perygl", "angen ymyrraeth").
• Cynnal archwiliadau ansawdd data i sicrhau cywirdeb, cysondeb a chydymffurfiaeth â GDPR.
• Cynhyrchu adroddiadau data ar dueddiadau, risgiau a bylchau yn y system
Cysylltu â Theuluoedd Addysg Dewisiol Gartref
• Cysylltu â rhieni/gofalwyr i gadarnhau trefniadau addysg plentyn a chynnig cyngor ar opsiynau addas o fewn 10 diwrnod o dderbyn rhybudd o ddad gofrestriad
• Esbonio dyletswyddau cyfreithiol rhieni o dan Adran 7 Deddf Addysg 1996.
• Cynnal ymweliadau sensitif gyda theuluoedd sy'n wynebu rhwystrau cymdeithasol, ieithyddol neu economaidd.
• Cyfeirio teuluoedd at gymorth ychwanegol pan fo angen (e.e.gwasanaethau iechyd meddwl, Plant,Gyrfa Cymru ).
Cydweithio Amlasiantaethol
• Gweithio'n agos gyda gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr heddlu, mewnfudo, tai, gwasanaethau ieuenctid ac ysgolion.
• Arwain neu gyfrannu at gyfarfodydd amlasiantaethol ar achosion risg uchel.
• Rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfreithiol i ddiogelu plant a sicrhau mynediad at addysg.
• Cefnogi gweithdrefnau diogelu lleol a chenedlaethol.
Cynllunio ac Arwain Ymyriadau
• Datblygu cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer pob plentyn sy'n colli addysg.
• Monitro cynnydd yn erbyn targedau ac addasu ymyriadau pan fo angen.
• Cyfeirio at wasanaethau arbenigol pan fo rhwystrau cymhleth (e.e iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, camfanteisio).
• Cefnogi teuluoedd i sicrhau lle mewn ysgol neu ddarpariaeth addas arall.
Monitro, Adrodd a Chydymffurfiaeth
• Paratoi adroddiadau rheolaidd ar lefelau CME, risgiau a thueddiadau ar draws yr awdurdod.
• Cyflwyno gwybodaeth i uwch reolwyr, pwyllgorau addysg a swyddogion .
• Sicrhau bod yr awdurdod yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
• Cyfrannu at adolygiadau polisi a datblygu strategaethau lleol.
• Gweithredu ar Gorchymyn mynychu Ysgol yn ol yr angen
Diogelu a Rheoli Risg
• Adnabod arwyddion o gamfanteisio, esgeulustod neu risgiau eraill sy'n gysylltiedig â diffyg mynediad at addysg.
• Cyfeirio pryderon yn brydlon i wasanaethau plant.
• Cymryd rhan mewn cynadleddau diogelu a chynlluniau amddiffyn plant.
• Sicrhau bod pob cam gweithredu yn rhoi lles y plentyn yn gyntaf.
Codi Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant
• Darparu hyfforddiant i ysgolion a gwasanaethau partner ar brosesau CME.
• Datblygu canllawiau, templedi a deunyddiau cefnogi ar gyfer staff rheng flaen.
• Hyrwyddo arferion gorau ar draws yr awdurdod.
Cynrychioli'r Awdurdod Lleol
• Cynrychioli'r gwasanaeth mewn cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol.
• Cyfrannu at rwydweithiau proffesiynol a rhannu arferion da.
• Cefnogi datblygu polisïau cenedlaethol drwy adborth a data lleol
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi