MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Tachwedd, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Sgiliau Hanfodol (Saesneg/Mathemateg/Digidol)

Darlithydd mewn Sgiliau Hanfodol (Saesneg/Mathemateg/Digidol)

Coleg Cambria
Rydym yn ceisio recriwtio darlithydd Sgiliau a delir fesul awr sy'n gyfarwydd â chyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru sy'n cynnwys sgiliau cyfathrebu hanfodol, sgiliau cymhwyso rhif hanfodol a sgiliau llythrennedd digidol hanfodol. Croesewir ceisiadau hefyd gan ddarlithwyr sydd â phrofiad o gyflwyno sgiliau Swyddogaethol a/neu TGAU.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid bod gennych brofiad a chymhwysedd profedig ym maes darlithio sgiliau Saesneg, Mathemateg neu lythrennedd digidol ac yn meddu ar y cymwysterau addysgu perthnasol
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi ddarparu dysgu ymarferol a dysgu yn yr ystafell ddosbarth i'n myfyrwyr. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a llesiant ein myfyrwyr bob amser.

JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol
Wedi cymhwyso i Lefel 3 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
Gallu adnabod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i ymarfer
Sgiliau llythrennedd digidol cymwys.
Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu
Ymwybyddiaeth o bwysigrwydd safonau ansawdd o fewn addysgu
Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu