MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau, Gwynedd, LL40 2SW
  • Testun: Arlwyo/Lletygarwch
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £11.50 - £11.50
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Arlwyo, Rhan Amser, Tymor yn Unig, Dros Dro

Cynorthwy-ydd Arlwyo, Rhan Amser, Tymor yn Unig, Dros Dro

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach am y swydd a ffurflen gais ewch i https://www.gllm.ac.uk/jobs

Bydd y dyletswyddau penodol yn cynnwys:
● Glanhau, tacluso a diheintio offer cegin, gweithfannau ac arwynebau, mannau llonydd, byrddau, biniau gwastraff, mannau blaen y tŷ a'r mannau bwyta, cyn ac ar ôl pob cyfnod gweini bwyd fel bo'r angen, gan ddefnyddio'r cemegau a'r deunyddiau cywir.
● Gwagio bagiau big gwastraff a brwsio lloriau yn unol â gofynion HACCP.
● Cofnodi pob tymheredd oer a phoeth yn unol â gweithdrefnau HACCP
● Glanhau, ail-lenwi a diogelu peiriannau bwyd blaen y tŷ a'r oergelloedd arddangos.
● Rhoi gwybod i'r rheolwr llinell am unrhyw beiriannau sydd wedi torri, wedi'u difrodi, neu sy'n beryglus.
● Cyd-fynd â rheolau dosrannu bwyd a chynorthwyo yn y gwaith o fonitro a pharatoi bwyd er mwyn lleihau gwastraff.
● Bod yn wyliadwrus o ddiogelwch stoc ac arian.
● Delio gyda chwsmeriaid bob amser mewn modd cyfeillgar a chynorthwyol
● Gweithio fel aelod i dîm, dangos arfer da i aelodau newydd o staff; arwain trwy esiampl wrth weithio mewn modd prydlon ac o fewn y gofynion amser a ddisgwylir wrth weithio mewn awyrgylch arwylo brysur.
● Cynorthwyo i baratoi ar gyfer derbyniadau neu ddigwyddiadau o fewn y coleg.
● Llenwi bwlch yn lle staff sy'n absennol yn ôl y galw.
● Glanhau cyllyll a ffyrc a sicrhau bod digon yno bob dydd. ● Ymateb i geisiadau rhesymol eraill gan y rheolwr llinell.
Hylendid Bwyd a Salwch
Dylai rhai sy'n trin bwyd gynnal safon uchel o hylendid personol. Mae hyn yn cynnwys:
● Cadw dwylo'n lan bob amser. Dylai pobl sy'n trin bwyd olchi eu dwylo ar ôl bod yn y toiled, pan fyddant yn cyrraedd y gegin, ar ôl bwyta, yfed, trin cemegolion, gwastraff ac ati.
● Ni ddylid gwisgo gemwaith na phersawr yn y gwaith.
● Sicrhau bod gwallt yn lân a'u bod yn gwisgo penwisg addas. ● Gweithredu polisi 'dim ysmygu' yn y gwaith
● Sicrhau bod briwiau, ewinor, archollion ac ati wedi eu gorchuddio â gorchudd glas sy'n dal dŵr.
● Peidio â chefnogi arferion glendid gwael fel pigo trwyn, cnoi ewinedd, crafu clustiau ac ati.
Cyfarpar Diogelu Personol

● Rhaid cadw at y cod gwisg bob amser er mwyn sicrhau eich bod yn cyd-fynd â gweithdrefnau diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch a gwarchod defnyddwyr. Bydd y cod dillad yn cynnwys gwisg addas, esgidiau call a phenwisg addas fel het neu rywbeth sy'n cyfateb â hynny. Gall peidio cydymffurfio â'r cod gwisg arwain at gamau disgyblu.

JOB REQUIREMENTS
Gweler y swydd ddisgirifad / Manyleb person ynghlwm