MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Glanhawr/wraig - Ysgol Friars

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOL FRIARS, BANGOR

(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.

GLANHAWR / CLEANER

PARHAOL / PERMANENT

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar

Oriau gwaith: 12.5 awr yr wythnos

(40.4 wythnos y flwyddyn, sef tymor ysgol ynghyd a 12 diwrnod tu allan i dymor ysgol)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS2 pwynt 4 (£7,588 - £7,690 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Rheolwr Busnes, Mrs Bethan Thomas, Rhif ffôn: 01248 364905

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan yr Arweinydd Prosiect, Miss Bethn Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905;

e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 25 O FEHEFIN, 2026.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

PRIODWEDDAU PERSONOL

Hanfodol

Gallu gweithio fel rhan o dîm

Dymunol

-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

Hanfodol

-

Dymunol

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf

PROFIAD PERTHNASOL

Hanfodol

-

Dymunol

Profiad o weithio mewn swydd glanhau.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

Hanfodol

-

Dymunol

Sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Mynediad

Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.

Darllen a Deall - Mynediad

Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.

Ysgrifennu - Mynediad

Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y swydd
  • Ymgymryd â glanhau'r ardaloedd o fewn adeiladau'r ysgol fel rhan o dîm i sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn cyflwr glân a hylan.
  • Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am swyddogaethau
  • Offer

Prif ddyletswyddau
  • Glanhau, golchi, brwsio, defnyddio sugnydd llwch.
  • Gwagio biniau ysbwriel.
  • Dwstio a sgleinio y rhannau penodol ac hefyd dodrefn a ffitiadau.
  • Glanhau toiledau a mannau cawodydd.
  • Bydd gofyniad i ddefnyddio, pan yn briodol ac angenrheidiol, gyfarpar pwerddreif.
  • Gall y dyletswyddau amrywio o dymor i dymor ac ar adegau pan fydd yr ysgol ar gau.
  • Bydd hefyd, pan fo'r galwad, reidrwydd i chwi symud i rannau eraill o'r ysgol.
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi