MANYLION.
  • Lleoliad: Conwy,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Cyfnod Allweddol 2 Dros Dro - Ysgol Deganwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon



Ysgol Deganwy

Park Drive

Deganwy

Conwy

LL31 9YB

Ffôn: 01492 574600

Pennaeth: Mrs Zoe Pritchard Parry

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

ATHRO/ATHRAWES CYFNOD ALLWEDDOL 2 DROS DRO

(Contract dros dro hyd at 31/08/2027)

Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i groesawu ceisiadau am y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'n tîm llwyddiannus. Rydym am benodi athro rhagorol, brwdfrydig sydd â phrofiad perthnasol o addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • yn ymarferwr rhagorol sy'n gallu darparu profiadau dysgu ysgogol a heriol o'r safon uchaf i'n plant
  • yn barod i fod yn aelod effeithiol o dîm ymroddedig o athrawon a chynorthwywyr dysgu

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn:
  • datblygiad proffesiynol rhagorol
  • cefnogaeth cydweithwyr ymroddedig a brwdfrydig
  • amgylchedd cefnogol, gofalgar a hapus
  • disgyblion sydd yn awyddus i ddysgu ac yn glod i'r ysgol
  • rhieni a llywodraethwyr cefnogol

Mae'r gallu i ddysgu a chyfathrebu'n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau cyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth os gwelwch yn dda.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English