MANYLION.
  • Lleoliad: Abergavenny,Hereford,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 24 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb Swydd
Mae Gwasanaeth Cynhwysiant Sir Fynwy yn parhau i gyfoethogi ei ddarpariaeth ar
gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol. Drwy'r model
arbenigol o ddarpariaeth, mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn parhau i ymdrechu am
ragoriaeth, mewn darpariaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n rhoi blaenoriaeth
i lesiant a mynediad i ddysgu i sicrhau cynnydd. Dymunwn benodi ymarferydd
rhagorol sy'n barod i gymryd rôl wrth ddatblygu ein darpariaeth arbenigol ymhellach.
Mae model darpariaeth arbenigol Sir Fynwy ar gyfer plant gydag anghenion dysgu
ychwanegol. Mae'r plant sy'n cael mynediad i'r ddarpariaeth hon yn derbyn
Cynlluniau Datblygu Unigol, gyda'r brif nod o iechyd cymdeithasol, emosiynol a
meddyliol, mewn llawer o achosion, yn gysylltiedig gyda niwro-wahaniaeth.
Mae ein Cynorthwywyr Addysgu:
• yn ymestyn dysg disgyblion gydag ystod eang o anghenion dysgu
• cefnogi wrth alluogi disgyblion i ddod yn annibynnol a chymryd rhan yn y
cwricwlwm ac ym mywyd cyffredinol yr ysgol
• cefnogi wrth ddiwallu anghenion iechyd a llesiant unigolion
• cefnogi gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer hyrwyddo lefelau uchel o bresenoldeb
Mae Gwasanaeth Cynhwysiant Sir Fynwy yn ymroddedig i ddatblygu potensial yr
holl staff a disgyblion. Mae rhaglen lawn o hyfforddiant a chymorth yn helpu i feithrin
ymarfer ystyriol o drawma ac ymarfer perthynol fel sail i addysgeg gadarn. Bydd yr
ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu'n sylweddol at gefnogi ein disgyblion fel rhan o
wasanaeth profiadol, agored ac y cyd.
Mae rhaglen lawn o Ddysgu Proffesiynol yn helpu i feithrin yr ymarfer ystyriol o
drawma ac adferol y gwyddom sy'n sylfaen i addysgeg gadarn.
Y nod yw cynyddu llesiant a hunanwerth disgyblion fel y gallant gyflawni yn hyderus
wrth ochr eu cyfoedion.
Bydd y gwasanaeth yn darparu cynefino llawn a datblygiad proffesiynol parhaus.

Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):

Lleoliad: Pupil Referral Service - North, Old Hereford Road, Abergavenny, NP7 6EL.. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol): 39

GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check

ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: HAYLEY PAGE / hayleypage@monmouthshire.gov.uk