MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddydd Cyllid ac Adnoddau Dynol

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb Swydd
Mae Ysgol Brenin Harri'r VIII (ar gyfer disgyblion 3-19 oed) yn chwilio am weinyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol cadarnhaol, deinamig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm. Y nod yw ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n ymwneud â swyddogaethau cyllid ac adnoddau dynol ar draws yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cyflawni tasgau sy'n ymwneud â gweinyddu cyllideb yr ysgol, rheoli systemau arlwyo a thalu'r ysgol, prosesu'r gyflogres, a gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer swyddogaethau gwasanaethau pobl. Dyma gyfle gwych i ymuno â'n hysgol newydd, mewn cymuned hyfryd a golygfaol, wedi'i lleoli yng nghysgod Mynydd Pen y Fâl.

Ein gweledigaeth yw i'r holl ddisgyblion, waeth beth fo'u cefndir, wneud cynnydd cyflym, cyrraedd safonau academaidd rhagorol a datblygu'n unigolion gwych sy'n coleddu ein gwerthoedd cadarnhaol yn ddwfn yn eu calonnau. Rydym am i'r holl ddisgyblion, aelodau o'r staff a theuluoedd deimlo cysylltiad cryf ac ymdeimlad dwfn o berthyn i'n hysgol. Mae gennym gred ddi-sigl yn y potensial anghyfyngedig sydd gan bawb i gyflawni pethau gwych. Rydym yn manteisio ar yr holl fanteision a ddaw yn sgil ysgol sy'n darparu addysg i bob oedran. Ym mis Ebrill 2025, symudom i'n hadeiladau a'n cyfleusterau newydd sbon o'r radd flaenaf. Cewch gefnogaeth lawn gan Bennaeth a'r Uwch Dîm Arwain sy'n frwdfrydig ac yn ymroddedig, yn ogystal â theulu hyfryd a chroesawgar o staff a disgyblion.

Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):

Lleoliad: King Henry Viii 3-19, NP7 6EP, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol): 39

GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check

ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: kinghenryviii319@monmouthshireschools.wales