MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £11,101 - £11,277
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddiaeth a Threfniadaet Lefel 2 - Cwm Alun

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £11,101 - £11,277

Ynglŷn â'r Rôl
Cynorthwyydd Gweinyddol - Darpariaeth AECY

Contract Dros Dro

18.75 awr yr wythnos. Pro Rata. 8.45am-12.30pm. Yn ystod y tymor.

Dyddiad dechrau: Medi 2026

Gradd: G04

Pennaeth: Mrs. K. Owen-Jones (ar secondiad o Ysgol Gynradd Gwenfro)

Bydd Cwm Alun yn ddarpariaeth arbenigol newydd wedi'i chofrestru fel Uned Cyfeirio Disgyblion i ddechrau. Bydd hon wedi'i lleoli yn Lôn Dodd, Gwersyllt. Nod y ddarpariaeth yw bod yn lleoliad meithringar a chynhwysol sy'n arbenigo mewn cefnogi disgyblion ag Anawsterau Emosiynol, Cymdeithasol ac Ymddygiadol (AECY).

Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o ddarpariaeth newydd gyffrous o'r cychwyn cyntaf a chwarae rhan bwysig wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol a chymdeithasol ychwanegol.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel i dîm arwain yr ysgol a staff eraill.
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i rieni, gofalwyr, ymwelwyr, a gweithwyr proffesiynol allanol.
Rheoli galwadau ffôn, e-byst, ac ymholiadau swyddfa flaen mewn modd proffesiynol a chroesawgar.
Cadw cofnodion disgyblion cywir a dogfennaeth gyfrinachol.
Cefnogi gwaith monitro presenoldeb ac apwyntiadau.
Prosesu archebion ac anfonebau a chyflawni tasgau gweinyddol cyffredinol yn y swyddfa.
Cefnogi gweithdrefnau diogelu a sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal bob amser.
Gweithio'n agos gyda staff addysgu ac asiantaethau allanol i gefnogi disgyblion a theuluoedd.
Cynorthwyo gyda derbyniadau, trefniadau pontio, a chyfarfodydd rhieni lle bo angen.

Bydd Gan yr Ymgeisydd Delfrydol

Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
Y gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni, gofalwyr, disgyblion a gweithwyr proffesiynol.
Dull pwyllog, amyneddgar ac empathetig, yn enwedig wrth ymdrin â sefyllfaoedd heriol neu sensitif.
Sgiliau trefnu cryf gyda'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol.
Manwl gywirdeb.
Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel aelod o dîm.
Dull proffesiynol a chyfrinachol bob amser.
Sgiliau TGCh da gan gynnwys cymwysiadau Microsoft Office.
Dealltwriaeth o bwysigrwydd diogelu a chyfrinachedd o fewn lleoliad ysgol.
Byddai profiad o weithio mewn ysgol neu amgylchedd addysgol yn fanteisiol.

Profiad Dymunol

Mae profiad blaenorol o ddefnyddio:
Bromcom / SIMS
Systemau P2P
Ffurflenni llaeth NMRU
CBGY / CYBLD / Presenoldeb

yn ddymunol ond nid yn hanfodol, gan y gellir darparu hyfforddiant ar gyfer yr ymgeisydd cywir.

Dyddiad cau - Dydd Llun 15 Mehefin

Cyfweliadau - Dydd Gwener 19 Mehefin - 10am ymlaen

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.

About Us - Wrexham County Borough Council

Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.