MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb Swydd
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Brynbuga yn dymuno penodi Dirprwy Bennaeth rhagorol, cadarnhaol ac sydd â'r gallu i ysbrydoli i ymuno â'n
hysgol lwyddiannus, ofalgar ac uchelgeisiol o fis Ionawr 2027.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ar gyfer arweinydd profiadol a thra effeithlon i weithio mewn partneriaeth agos gyda'r Pennaeth, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymunedehangach
i barhau i adeiladu ar gryfderau niferus yr ysgol a llunio cam nesaf ei datblygiad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol gyda
hanes o lwyddiant mewn arweinyddiaeth a gwella ysgol. Bydd yn rhannu ein hymroddiad i sicrhau fod bob plentyn yn ffynnu yn academaidd, cymdeithasol,
economaidd ac ysbrydol o fewn cymuned gynhwysol ysgol Eglwys yng Nghymru.

Fel aelod o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, bydd y Dirprwy Bennaeth yn gwneud cyfraniad
sylweddol i arweinyddiaeth strategol yr ysgol, gan gefnogi datblygu gweledigaeth glir o ragoriaeth mewn addysgu a dysgu, llesiant disgyblion, cymeriad Cristnogol a gwelliant
ysgol parhaus. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chyfrifoldebau
proffesiynol Dirprwy Bennaeth fel y'u nodir yn Nogfen Tâl ac Amodau Athrawon ysgol a
dirprwyo dros y Pennaeth fel sydd angen.

Edrychwn am arweinydd sydd yn:
• Ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol gyda disgwyliadau uchel ar gyfer pob
dysgwr.
• Meddu ar brofiad llwyddiannus fel arweinydd a gallu amlwg i wella deilliannau
ar gyfer plant.
• Meddu ar ddealltwriaeth glir o'r Cwricwlwm i Gymru ac addysgeg effeithlon.
• Ymroddedig i gynhwysiant a sicrhau fod pob dysgwr, yn cynnwys rhai gydag
Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn cyflawni eu potensial llawn.
• Medru ysbrydoli, cymell a datblygu staff drwy arweinyddiaeth ar y cyd.
• Hyrwyddo a chefnogi gweledigaeth, gwerthoedd a chymeriad Cristnogol ein
hysgol Eglwys yng Nghymru.
• Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ac a all adeiladu
partneriaethau cryf gyda disgyblion, staff, teuluoedd, llywodraethwyr, yr eglwys
a'r gymuned ehangach.
• Ymroddedig i'w dysgu proffesiynol ei hunan a datblygu eraill.

Mae disgrifiad swydd y Dirprwy Bennaeth yn seiliedig ar y Safonau Proffesiynol ar gyfer
Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru ac yn dangos disgwyliadau arweinyddiaeth
mewn ysgol Eglwys yng Nghymru. Mae gwerthoedd ac ethos Cristnogol yn rhan hanfodol o bob agwedd o fywyd yr ysgol a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus i
gyfrannu at a chefnogi cymeriad Cristnogol neilltuol yr ysgol.

Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):

Lleoliad: Usk Church In Wales Primary School, NP15 1SE, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol):

GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check

ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: OLIVER BECKETT / oliverbeckett@monmouthshire.gov.uk