MANYLION.
  • Lleoliad: Conwy,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Cyflog: NJC G05 pwynt 12 - 19 £16,960 - £19,013 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch Dros Dro - Ysgol Pencae

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Cyflog: NJC G05 pwynt 12 - 19 £16,960 - £19,013 y flwyddyn

YSGOL PENCAE, PENMAENMAWR

Ffordd Graiglwyd, Penmaenmawr, LL34 6YG

Ffon: 01492 622219

ebost: pennaeth@pencae.conwy.sch.uk

Pennaeth: Mr Owain Ellis

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL UWCH DROS DRO

(Contarct dros dro hyd at 31/08/2027)

Mae Llywodraethwyr Ysgol Pencae yn awyddus i benodi Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain dysgu mewn cyfnodau CPA athrawon ac yn gyfrifol am gynllunio ac addysgu gwersi gan gynnwys arwain y dosbarth Meithrin yn y boreau. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau eraill megis cyfarfod â rhieni ac asesu i gyd wrth gael eu goruchwylio a'ch cefnogi gan yr athro dosbarth.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad

gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion yngln â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar (01492) 622219

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English