MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanfair Caereinion,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Pwynt 1 Statws Athro Heb Gymhwyster +Pensiwn Athro
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 25 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pwynt 1 Statws Athro Heb Gymhwyster +Pensiwn Athro
Athrawon Uchelgeisiol (Ysgol Bro Caereinion)Swydd-ddisgrifiad
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Angenrheidiol ar gyfer Medi 2026
Nodwch y rôl Athro sydd orau gennych yn eich ffurflen gais
Athro Cymraeg Uchelgeisiol (yn hyfforddi fel athro uwchradd)
Athro Saesneg Uchelgeisiol (yn hyfforddi fel athro uwchradd)
Athro Mathemateg Uchelgeisiol (yn hyfforddi fel athro uwchradd)
Athro Gwyddoniaeth Uchelgeisiol (yn hyfforddi fel athro uwchradd)
TAR Cynradd (hyfforddiant fel athro Cynradd)
Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r
TAR WEDI'I ARIANNU yn LLAWN yn y Brifysgol Agored (rhaglen 2 flynedd)
Llawn amser Cyfnod penodol am 2 flynedd academaidd
Graddfa Cyflog: Pwynt 1 Statws Athro Heb Gymhwyster +Pensiwn Athro
Mae Ysgol Bro Caereinion yn cynnig cyfle eithriadol i astudio TAR (Statws Athro Cymwys) trwy raglen bartneriaeth seiliedig ar gyflogaeth (2 flynedd) a noddir gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â'r Brifysgol Agored a Chyngor Sir Powys. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad i addysgu ac amrywio'r proffesiwn.
Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd eisiau newid gyrfaoedd neu raddedigion sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu, hyfforddwyr dysgu neu swyddogion ieuenctid sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol hefyd.
Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno ag Ysgol Bro Caereinion, gan y byddai gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol mewn maes dysgu sydd ar flaen y gad o ran Cwricwlwm i Gymru ac o ran creu adnoddau ysbrydoledig. Mae gan yr ysgol naws gymunedol a theuluol nodedig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a'r staff. Mae elfen gref o gydweithio a chefnogaeth barod ymhlith y tîm staff, lle mae pob aelod o staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl yn llwyddiant a lles ein plant, ein pobl ifanc, a'n gilydd fel oedolion proffesiynol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywydau ein pobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deiliad y swydd hon yn derbyn cefnogaeth lawn gan yr ysgol a'i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.
Mae gan y swydd hon ofyniad ar gyfer Gwiriad DBS Manylach
Am unrhyw gwestiynau neu wybodaeth bellach am y cyfle hwn, anfonwch e-bost at Dîm TAR Cymru yn wales-pgce@open.ac.uk neu ewch i TAR | Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg yng Nghymru | K36 (open.ac.uk) neu cysylltwch â perdue@powys.gov.uk