MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brecon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Ysgol Y Bannau)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
O dan arweiniad yr Unigolyn Cyfrifol, Pennaeth neu unrhyw uwch aelod o staff arall, neu lywodraethwr, eich rôl bydd cydlynu a bod yn gyfrifol am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd gan sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel. Darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar o fewn y lleoliad lle gall plant a gofalwyr teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol trwy amrywiaeth o weithgareddau.
Bod yn gyfrifol am reoli'r amgylchedd dysgu e.e. sefydlu/paratoi/cynnal adnoddau dysgu, creu arddangosfeydd o waith plant, paratoi, cynnal a gwerthuso meysydd o ddarpariaeth barhaus.
Ymgymryd â thasgau gweinyddol angenrheidiol gan gynnwys cwblhau ffurflenni a threfniadau derbyn.
Sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel, trefnus ac yn cael ei gynnal a'i gadw bob amser.
Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd,
diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a diogelu data, a bod unrhyw bryderon yn cael eu
hadrodd, fel y bo'n briodol.
Sicrhau bod darpariaeth yn bodloni polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau AGC.
Bod yn gyfrifol am hunanwerthuso'r ddarpariaeth yn unol ag arweiniad AGC a/neu Estyn
Bod yn gyfreithiol gyfrifol fel y 'Person â Chyfrifoldeb' o dan reoliadau AGC.
Bod yn gyfrifol am gynllunio, adolygu a chyflwyno profiadau chwarae o ansawdd da / y
cwricwlwm Dysgu Sylfaen a gyda gofal disgyblion, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol
ac ymddygiad.
Bod yn gyfrifol am arsylwadau, asesiadau a chadw cofnodion rheolaidd, a darparu gwybodaeth
berthnasol ar lafar/ysgrifenedig i gyfrannu at gynllunio a gwerthuso, er mwyn nodi camau nesaf
dysgu'r plant.
Bod yn gyfrifol am roi gwybod i rieni am gynnydd plant a darparu adroddiadau ysgrifenedig yn
ôl yr angen.
Bod yn gyfrifol am reoli ymddygiad plant.
Bod yn gyfrifol am sicrhau bod byrbrydau addas yn cael eu darparu a'u paratoi a bod amser
bwyd yn cael ei oruchwylio, gan gydymffurfio â rheoliadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon