MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: MPS\/UPS
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth Blwyddyn 1 – Ysgol Gynradd Greenmeadow

Torfaen Local Authority

Cyflog: MPS\/UPS

2 ddiwrnod yr wythnos | 13 awr

Yn Ysgol Gynradd Greenmeadow, rydyn ni'n chwilio am athro/athrawes sy'n fywiog, yn arloesol ac yn greadigol a fydd yn dod ag egni ac ysgogiad i'r ystafell ddosbarth, i ymuno â'n tîm ymroddgar a chefnogol o staff. Rydyn ni'n dymuno penodi ymarferydd sy'n llawn ysbrydoliaeth a chymhelliant, sy'n angerddol am ddarparu cwricwlwm cyfoethog a chreadigol sy'n diwallu anghenion ein dysgwyr. Bydd yr unigolyn hwn yn cyflwyno addysgu o ansawdd uchel, ac ar yr un pryd yn meithrin ac yn ysbrydoli ein plant yn llwyddiannus; bydd ganddynt ddisgwyliadau uchel o'n dysgwyr a byddant yn eu galluogi i gyflawni eu gorau. Bydd disgwyl iddynt hefyd ddangos ymrwymiad i wella ysgolion a chynnal amgylchedd dysgu iach a hapus ar yr un pryd.

Gallwn gynnig i chi:
  • Ysgol ddeinamig sydd â disgwyliadau uchel
  • Amgylchedd dysgu sydd ag adnoddau da
  • Tîm o staff cyfeillgar, brwdfrydig a phlant gwych
  • Cyfleoedd pwrpasol am ddatblygiad proffesiynol
  • Corff Llywodraethu Cefnogol

Dylai ymgeiswyr:
  • Fwynhau herio, cefnogi ac ysgogi plant
  • Ymdrechu i wneud dysgu yn hwyl ac yn berthnasol
  • Bod yn llawn cymhelliant
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm
  • Meddu ar ymrwymiad i godi safonau ar gyfer pob plentyn
  • Meddu ar weledigaeth, egni a synnwyr digrifwch
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Claire Moses trwy e-bost - claire.moses@torfaen.gov.uk

Tynnu'r Rhestr Fer: Dydd Llun 22 Mehefin 2026

Arsylwi ar Wersi: Wythnos Arsylwi ar Wersi yn dechrau ar 29 Mehefin 2026

Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau ar 6 Gorffennaf 2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.