MANYLION.
  • Lleoliad: Caersws,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Cwtsh Caersws)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Cwtsh Caersws)
Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £13.45 yr awr.

CYNORTHWYYDD LLEOLIAD CYN-YSGOL

(CYFNOD PENODOL TAN AWST 2027)

16 awr yr wythnos - gan ddechrau 1 Medi 2026

Mae gennym gyfle ar gyfer Cynorthwyydd Lleoliad Cyn-ysgol i ymuno â'n tîm cyn-ysgol dibynadwy, gweithgar ac ymroddedig yn ein lleoliad ffyniannus.

Rydym yn chwilio am gynorthwyydd brwdfrydig sydd:
  • wedi cyflawni cymhwyster lefel 3 sy'n cael ei gydnabod ar restr gyfredol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau a Dderbynnir ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar
  • yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion y Blynyddoedd Cynnar a
  • byddai'n:
➢ cyfrannu at gynllunio a chadw cofnodion.

➢ goruchwylio a rhyngweithio'n effeithiol â phlant yn ystod y sesiynau.

➢ cefnogi plant yn gyson wrth gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.

➢ hyrwyddo cynhwysiant.
  • annog a defnyddio'r amgylchedd awyr agored i gefnogi profiadau dysgu'r plant.
  • annog dwyieithrwydd yn gadarnhaol a hyrwyddo'r ymdeimlad o Gynefin yn y lleoliad.
Y patrwm gwaith ar gyfer y rôl hon yw: 16 awr yn ystod y sesiynau gofal plant ar gyfer plant 2 a 3 oed.

Dydd Llun - Dydd Iau 11:30-3:30 yn ystod y tymor yn unig.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r ysgol ar 01686 688458 neu office@caersws.powys.sch.uk

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon