MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: MPS \/ UPS
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro / Athrawes - Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam
Torfaen Local Authority
Cyflog: MPS \/ UPS
Cyfnod penodol, 1 Medi 2026 hyd 31 Awst 2027Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig ac ymroddgar sy'n dymuno ymuno â'n tîm profiadol ac ymroddgar.
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam yn ysgol gymunedol gyfeillgar sy'n cyflawni'n uchel.
Mae Corff Llywodraethu'r ysgol yn dymuno penodi athro/athrawes ysgol gynradd sy'n frwdfrydig ac sydd â'r profiad a'r cymwysterau priodol i ymuno â'r tîm ymroddgar sy'n llawn ysgogiad yn Ysgol Gynradd Llantarnam, am gyfnod penodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu'n actif at agenda gwella'r ysgol, a bydd disgwyl iddo/iddi weithio'n effeithiol yn y cyfnod penodedig gyda holl aelodau'r cyfnod i helpu i gynnal safonau addysgu uchel a'u gwella.
Mae sgiliau addysgu a rheoli rhagorol yn yr ystafell ddosbarth yn hanfodol ac mae'n rhaid i ymgeiswyr weithio'n gadarnhaol i gynnal ethos cwbl gynhwysol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn ymrwymedig i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a bod yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.
Tynnu'r rhestr fer: 15/06/2026
Cyfweliadau 17/06/2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.