MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: MPR/UPR
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Addysg Gorfforol

Cyngor Wrecsam

Cyflog: MPR/UPR

Ynglŷn â'r Rôl
Mae'r adran Addysg Gorfforol yn Adran boblogaidd a llwyddiannus yn yr ysgol. Bydd pob disgybl yn derbyn gwersi Addysg Gorfforol o flynyddoedd 7 i 11 ac mae niferoedd iach yn dewis astudio cymhwyster TGAU a Lefel A yn y pwnc. Mae 5 aelod yn yr adran; 3 yn rhan amser. Mae'r swydd hon wedi codi o ganlyniad i secondiad un aelod o'r adran i swydd CADY am flwyddyn. Mae'r Adran Addysg Gorfforol mewn bloc ar wahân yn yr ysgol. Mae Neuadd Chwaraeon fawr a Champfa dan do, a thu allan mae Cae Pob Tywydd ac ardaloedd llai. Mae'r adran yn rhedeg llawer o weithgareddau allgyrsiol ac yn profi llawer o lwyddiant mewn sawl maes.

Prif ddyletswydd Athro / Athrawes Addysg Gorfforol yw addysgu'r pwnc i flynyddoedd 7-11. Ni fydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu TGAU a Lefel A er y gellid ystyried hynny yn unol a dymuniad yr ymgeisydd. Bydd disgwyl cynllunio gwersi yn unol a chynlluniau gwaith yr adran ac asesu'n rheolaidd yn unol a'r polisi marcio. Bydd yr athro/wes yn atebol i bennaeth yr adran. Bydd athro/wes newydd gymhwyso o dan ofal Mentor Sefydlu.

Penodir yn unol ag amodau cyflogaeth cyfredol athrawon ysgol sydd wed-i'u cynnwys yn Nogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol, a'r safonau proff-esiynol newydd ar gyfer athrawon (Cymru).

Am rhagor o wybodaeth gwiriwch y pecyn swydd.

Dyddiad Cau 10/6/2026
Amdanom Ni
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae tua 950 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 75 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.

Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.