MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: PRC-URC / MPR-UPR
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dosbarth Meithrin (Boreau yn Unig) - Ysgol ID Hooson

Cyngor Wrecsam

Cyflog: PRC-URC / MPR-UPR

Ynglŷn â'r Rôl
Athro/Athrawes Dosbarth Meithrin (Boreau yn Unig)

Swydd Dros Dro - Cyfnod Mamolaeth
Ysgol I D Hooson, Rhosllannerchrugog

Mae Ysgol ID Hooson yn dymuno penodi athro neu athrawes frwdfrydig ac ymroddedig i weithio yn ein dosbarth Meithrin

ar sail boreau yn unig am gyfnod mamolaeth.

Mae Ysgol I D Hooson yn ysgol gynradd Gymraeg yng nghanol cymuned Rhosllannerchrugog, Wrecsam. Rydym yn ysgol:

groesawgar
gynhwysol
gefnogol
ac yn canolbwyntio ar les a datblygiad pob plentyn

Rydym yn ymfalchïo mewn datblygu sgiliau ieithyddol a bywyd disgyblion trwy brofiadau ymchwiliol, hwyliog a chreadigol, gan roi'r plentyn wrth wraidd ein darpariaeth.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd yn:

Arwain dysgu a datblygiad plant Meithrin mewn amgylchedd ysgogol, diogel a hwyliog
Cynllunio profiadau dysgu sy'n seiliedig ar chwarae ac ymchwilio
Hyrwyddo a datblygu Cymru a'r Gymraeg yn naturiol ac effeithiol
Gweithio'n agos gyda staff, rhieni a gofalwyr
Cefnogi anghenion unigol pob plentyn mewn modd cynhwysol
Fodlon parhau i gydweithio â'n darpariaeth cyn ysgol i hwyluso a chryfhau y trosglwyddo.
Angerddol dros datblygu sgiliau yn yr awyr agored, beth bynnag fo'r tywydd.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:

â dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant ifanc
yn siaradwr Cymraeg rhugl
yn frwdfrydig, greadigol ac yn gadarnhaol
yn gweithio'n dda fel rhan o dîm
yn arloesol yn eu darpariaethau a'u cynigion addysgol.

Dewch i ymweld â'r ysgol i gwrdd â phawb a chael gweld beth sydd gennym i'w cynnig. Ymhlith llawer o bethau eraill, gallwn

gynnig:

Tîm staff cefnogol a phroffesiynol
Amgylchedd dysgu cynnes a gofalgar
Cyfle gwerth chweil i gyfrannu at ddechrau taith addysgol plant ifanc

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.




Amdanom Ni
Amdanom ni -Ysgol ID Hooson

Yma yn Ysgol I D Hooson, ein gweledigaeth yw i sicrhau fod pawb yn gwneud eu gorau glas i fod yn fentrus ac uchelgeisiol. Ymfalchiwn yn ein Cymreictod ac ymrymwn i ennyn balchder yn yr iaith Gymraeg.
Byddwn yn rhoi profiadau i feithrin disgyblion iach, hyderus ac annibynnol, a thrwy hyn, datblygwn feddylfryd a pherthnasoedd cadarnhaol fydd yn Sylfaen gadarn i'r dyfodol.