MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Greenmeadow
Torfaen Local Authority
Cyflog: £26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
32.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddynDros dro tan 31 ain Awst 2027
Dyddiad Cychwyn: 1 af Medi 2026
Mae gennym bellach swydd wag ar gyfer dau Gynorthwyydd Addysgu i weithio mewn ystafelloedd dosbarth sy'n cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Greenmeadow yn ysgol lwyddiannus iawn ac rydym am gyflogi Cynorthwywyr Addysgu angerddol a gweithgar i ymuno â'n tîm dibynadwy a chymhellol.
Gallwn gynnig i chi:
- Gyfle prin i weithio mewn ysgol brif ffrwd gyda'n disgyblion ADY
- Ysgol ddeinamig gyda disgwyliadau uchel
- Amgylchedd dysgu sydd ag adnoddau da
- Tîm o staff cyfeillgar, brwdfrydig a phlant gwych
- Cyfleoedd pwrpasol am ddatblygiad proffesiynol
Dylai ymgeiswyr:
- Fwynhau herio, cefnogi ac ysgogi plant
- Ymdrechu i wneud dysgu yn hwyl ac yn berthnasol
- Bod yn llawn cymhelliant
- Gallu gweithio fel rhan o dîm
- Meddu ar ymrwymiad at godi safonau ar gyfer pob plentyn
- Meddu ar weledigaeth, egni a synnwyr digrifwch
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â Claire Moses drwy e-bost: Claire.moses@torfaen.gov.uk
Rhestr Fer: 15 fed Mehefin 2026
Arsylwadau o'r CA yn gweithio gyda grŵp bach o blant a chyfweliadau:
Wythnos yn dechrau - 22 ain Mehefin 2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.