MANYLION.
  • Lleoliad: Conwy,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Blwyddyn 1 A 2 (Cytundeb Blwyddyn) - Ysgol Pencae

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

YSGOL PENCAE

Ffordd Graiglwyd , Penmaenmawr LL34 6YG

Pennaeth: Mr Owain Ellis

Ffôn: 01492 622219

Ebost: pennaeth@pencae.conwy.sch.uk

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

ATHRO/ATHRAWES BLWYDDYN 1 A 2 (Cytundeb Blwyddyn)

(Contract dros dro hyd at 31/08/2027)

Mae Llywodraethwyr Ysgol Pencae yn dymuno penodi Athro/Athrawes llawn cymhelliant a brwdfrydedd i addysgu dosbarth cymysg blwyddyn 1 a 2. Gweler y manyleb person am wybodaeth bellach.

Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliadgan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English