MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: MPR/UPR
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/ Athrawes Blwyddyn 3 a 4 - Ysgol Llan Y Pwll

Cyngor Wrecsam

Cyflog: MPR/UPR

Ynglŷn â'r Rôl
Ynglŷn â'r Rôl

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Llan-y-pwll yn dymuno penodi athro Blwyddyn 3 a 4 brwdfrydig, ymroddgar, gofalgar ac egnïol i ymuno â'n tîm. Swydd barhaol yw hon i ddechrau ar 1 Medi 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

• Ymarferydd rhagorol, creadigol a hyderus, gydag ymroddiad llwyr i ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg;
• Hyblyg, ymroddedig, yn chwaraewr tîm cryf ac yn gallu cyfrannu'n effeithiol at ddatblygiadau'r ysgol a bywyd cymunedol ehangach yr ysgol;
• Barod i groesawu addysgeg ac athroniaeth y Cwricwlwm i Gymru a bod yn rhan o'i ddatblygu o fewn cyd-destun cymuned yr ysgol;
• Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr, gan gynnal cymhelliant, her a chyflymder, a darparu profiadau addysgu a dysgu deniadol ac o ansawdd uchel;
• Gwella safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr;
• Arddangos sgiliau ystafell ddosbarth a rheoli ymddygiad cryf;
• Gosod lles a diogelwch ein plant yn ganolog;
• Ymrwymedig i sicrhau bod pob dysgwr, waeth beth fo'u gallu neu eu cefndir, yn hapus ac yn llwyddiannus yn eu dysgu;
• Meithrin amgylchedd ystafell ddosbarth cadarnhaol a chynhwysol, gan wneud defnydd pwrpasol o'r awyr agored;
• Meddu ar Statws Athro Cymwysedig (QTS).

Ysgol benodedig Gymraeg yw Ysgol Llan-y-pwll, wedi'i lleoli ar gyrion tref Wrecsam yn ardal Borras. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon sy'n rhugl yn y Gymraeg.

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth am ragor o wybodaeth am y swydd neu i drefnu ymweliad â'r ysgol.
Yr Hyn a Gynigiwn
• Amgylchedd cefnogol a chynhwysol
• Diwylliant Cymraeg cryf
• Cyfle i helpu siapio ysgol sy'n datblygu
• Ffocws ar les a pherthnasoedd
• Disgwyliadau uchel a chyfleoedd datblygiad proffesiynol
• Cysylltiad cryf â'r gymuned

Diogelu
Mae Ysgol Llan-y-pwll wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae pob penodiad yn amodol ar wiriad DBS manylach a geirdaon boddhaol.

Dyddiadau arsylwi gwersi a cyfweliadau i'w cadarnhau.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni -
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Llan-y-pwll, wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam, yn ardal Rhosnesni a Borras. Agorwyd yr ysgol yn 2022 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac fe symudodd i mewn i adeilad a oedd wedi'i foderneiddio ym Mawrth 2023. Erbyn hyn, mae 70 o ddisgyblion ar y gofrestr, yn cynnwys disgyblion o'r Dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 3.

Bydd y niferoedd hyn yn cynyddu'n flynyddol wrth i ddosbarth ychwanegol gael ei ychwanegu bob blwyddyn, nes ein bod yn cynnig addysg i bawb hyd at Flwyddyn 6 ym Medi 2028. Felly, mae ein niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn.

Ymfalchïwn yn ein hadroddiad Estyn diweddar yn dilyn yr adolygiad yn Hydref 2025, pan roddwyd cydnabyddiaeth fod Ysgol Llan-y-pwll yn gymuned ddysgu ofalgar, hapus a chynhwysol, lle mae ymdeimlad cryf bod pob disgybl yn aelod o deulu mawr, clos.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Ysgol Llan-y-pwll yn ysgol ofalgar sy'n datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch lle mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

About Us -

Ysgol Llan-y-pwll is a Welsh-medium primary school located in the city of Wrexham, in the Rhosnesni and Borras area. The school opened in 2022 with a small group of pupils and moved into a modernised building in March 2023. At present, there are 70 pupils on the register, including pupils from Nursery up to Year 3.

These numbers will increase annually as an additional class is added each year, until we provide education for all pupils up to Year 6 in September 2028. Therefore, our numbers are increasing each year.

We are proud of our recent Estyn report following the inspection in October 2025, when it was recognised that Ysgol Llan-y-pwll is a caring, happy and inclusive learning community, where there is a strong sense that every pupil is a member of a large, close-knit family.

Our vision is to ensure that Ysgol Llan-y-pwll is a caring school that develops ambitious and capable learners, in an environment where everyone is happy, safe, and eager to learn.