MANYLION.
  • Lleoliad: Carno,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Prif Raddfa Broffesiynol
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 24 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes (Ysgol Carno)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa Broffesiynol

Athro / Athrawes (Ysgol Carno)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

ATHRO/ATHRAWES
32.5 awr yr wythnos
Yn eisiau: ar gyfer Hydref 2026 (Cyfnod Mamolaeth)
Croesawir ceisiadau gan ANG
Mae llywodraethwyr yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i benodi athro/athrawes egnïol a
brwdfrydig gyda chymwysterau priodol i addysgu dosbarth yn Ysgol Carno. Dylai'r
ymgeiswyr fod a'r gallu i arwain ac ysbrydoli plant i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'r gallu i
addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Dyma gyfle cyffrous am ddatblygiad proffesiynol ac i fod yn ynghlwm â'r ysgolion gynradd gyntaf i'w
ffedereiddio ym Mhowys. Bydd gofyn i chi weithio dan gyfarwyddyd pennaeth y ffederasiwn a'r uwch
dîm rheoli.
Rydyn ni'n chwilio am athro/athrawes sy'n:
• ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth sydd â gwybodaeth dda o addysgu a ynghyd â
dealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru.
• meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
• gweithio'n dda fel rhan o dîm
• yn angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth i'r plentyn "cyflawn"
• yn barod i ddangos ymroddiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau all-gwricwlaidd
Gallwn ni roi'r canlynol i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu sy'n ofalgar ac yn llawn adnoddau
• Partneriaeth dda â rhanddeiliaid
I drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Bethan G Jones 01686 420209
Mae pecynnau cais ar gael gan: Y Tîm Recriwtio, Neuadd Sir Powys, Llandrindod, LD1 5LG, 01597
826409 neu recruitment@powys.gov.uk
Dychwelir y ffurflenni cais i'r awdurdod erbyn y diwrnod cau: Dydd Mercher 24 Mehefin 2026