MANYLION.
  • Lleoliad: Schools,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Technoleg -Ysgol Aberconwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

YSGOL ABERCONWY

Athro/Athrawes Technoleg

Llawn amser
(byddwn yn ystyried ceisiadau rhan-amser hefyd)

Dyddiad cychwyn : Medi 2026

Manylion cyflog : Prif Raddfa/Graddfa Uchaf

Dyddiad Cau: Dydd Iau Mehefin 11eg

Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol

Rydym yn awyddus i benodi Athro Technoleg eithriadol, brwdfrydig a llawn cymhelliant a fydd yn arwain drwy esiampl ac yn cefnogi'r gyfadran yn eu cais i gyflawni eu targedau uchelgeisiol. Rydym yn annog ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso neu'r rhai sydd â mwy o brofiad sy'n teimlo y gallant ychwanegu gwerth i gyfadran sydd eisoes yn effeithiol iawn, a ffynnu mewn amgylchedd dynamig a bywiog.

Gweithdrefnau Diogelu

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac rydym yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Yng ngoleuni hyn, hoffem dynnu eich sylw at y materion canlynol:

Gwneir pob penodiad yn amodol ar y canlynol:
a. Gwiriadau GDG manwl;
b. Gwiriadau o statws proffesiynol (CGA; QTS ayyb.)
c. Cadarnhad o gymwysterau proffesiynol; font-size:12pt">d. Derbyn geirdaon cryf (os na chawsant eu derbyn erbyn y cyfweliad); font-size:12pt">e. Cliriad meddygol

Rydym ond yn derbyn ceisiadau a gwblhawyd ar ffurflen gais Conwy gyda llythyr eglurhaol. Os gwelwch yn dda, peidiwch â gyrru CV neu dystebau agored.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English