MANYLION.
  • Lleoliad: Lampeter,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 25,185 *
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 - Ysgol Dyffryn Aeron

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 25,185 *

Ynglŷn â'r rôl
Rydym am benodi 2 Gynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 yn 'Calon Aeron', Canolfan Arbenigol ADY, i'n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, llawn amser yn Ysgol Dyffryn Aeron. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o'r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o'r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru. Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu - Cefnogi a Chyflwyno Dysgu, Lefel 2.

Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Ysgol Dyffryn Aeron, a llywio ei llwyddiant. Gweler y 'Disgrifiad Swydd' am fwy o wybodaeth.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01570470650 neu Thomasn60@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant