MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandysul,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 52,680 - 58,136 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 02 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 52,680 - 58,136 *
Ynglŷn â'r rôlHysbyseb am Ddirprwy Bennaeth i Ysgol Gynradd Gymunedol T Llew Jones, ac mae'n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer y swydd.
Yn eisiau o Fedi y 1af 2026 - Swydd Dros Dro yn dilyn secondiad y Dirprwy presennol.
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol T Llew Jones yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth (dros dro) ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i'r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli'r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn llawn amser.
Fe fydd yr unigolyn yn :
- dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl drefnus a chydwybodol;
- barod i weithio fel rhan o uwch dim rheoli cadarn;
- hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
- ymgynghori a chynnig cyngor adeiladol i'r Pennaeth mewn meysydd a fyddai'n fanteisiol i'r ysgol;
- cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol;
- bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy'n codi oherwydd absenoldebau tymor byr a thymor hir;
- arwain ar faes dysgu a phrofiad syn bwydo cynllun datblygu'r ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
- gweledigaeth a rennir ar gyfer datblygu'r ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n rhoi lle canolog i'r gymuned;
- dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol gyfan;
- medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu;
- gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol;
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm;
- ymrwymiad cryf i gyfoethogi'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol.
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle euraidd i unigolyn i weithio mewn Ysgol Ardal lwyddiannus mewn ardal godidog o Orllewin Cymru. Gan rhoi cyfle a phrofiad i unigolyn brwdfrydig syn awyddus i ddatblygu ei sgiliau arweiniol dros cyfnod secondiad y Dirprwy presennol.
Cyfweliadau: 16/6/2026
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda'r Pennaeth Rhian Lloyd i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol 01239 654553.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy