MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £23,297 - £22,582
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £23,297 - £22,582
Ynglŷn â'r RôlBydd Ysgol Cwm Alun yn ddarpariaeth arbenigol newydd, wedi'i lleoli yn Lôn Dodd Gwersyllt. Nod Ysgol Cwm Alun yw bod yn lleoliad anogol a chynhwysol sy'n arbenigo mewn cefnogi disgyblion ag anghenion Iechyd Cymdeithasol, Emosiynol, a Meddyliol (ICEM). Rydym yn ceisio penodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 4 medrus, tosturiol a gwydn i ymuno â'n tîm ymroddedig. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i rywun sy'n angerddol am helpu plant i oresgyn rhwystrau, magu hyder a chyflawni eu llawn botensial.
Fel Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 4, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth roi cymorth o safon uchel i ddisgyblion ag anghenion ICEM. Gan weithio'n agos gydag athrawon, staff bugeiliol a gweithwyr proffesiynol arbenigol, byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel, strwythuredig ac emosiynol gefnogol lle gall disgyblion ymgysylltu'n gadarnhaol â dysgu.
Bydd cyfrifoldebau'n cynnwys:
• Arwain ymyriadau targedig- Cynllunio a chyflwyno rhaglenni grŵp neu 1:1 sy'n cefnogi rheolaeth emosiynol, sgiliau cymdeithasol ac ymgysylltu academaidd.
• Cefnogi ymddygiad a lles- Defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar drawma a pherthynol i helpu disgyblion i reoli emosiynau, datblygu gwytnwch ac adeiladu perthnasoedd ymddiriedol.
• Addasu dysgu - Addasu tasgau, adnoddau a threfniadau i sicrhau hygyrchedd a llwyddiant i ddisgyblion ag anghenion cymhleth.
• Gweithio ar y cyd - Cyd-gysylltu ag athrawon, therapyddion, asiantaethau allanol a theuluoedd i sicrhau cefnogaeth gyfannol, gyson.
• Cyfrannu at gynllunio- Cynorthwyo gyda pharatoi gwersi, asesu a chynlluniau ymddygiad, a chynnig mewnwelediad proffesiynol o ran cynnydd disgyblion.
• Gweithredu fel oedolyn allweddol - Cynnig sefydlogrwydd, anogaeth a chyfyngiant emosiynol i ddisgyblion a allai gael trafferth gydag ymddiriedaeth, trefn neu hunan ‑barch.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
• Â phrofiad o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ICEM neu anghenion dysgu ychwanegol.
• Â sgiliau lliniaru ,, hyfforddiant emosiynau, ac ymarfer adferol.
• Yn gallu bod yn ddi-gynnwrf, yn gyson ac yn dosturiol mewn sefyllfaoedd heriol.
• Yn hyderus wrth arwain ymyriadau a chyfrannu at gynllunio.
• Yn gyfathrebwr cryf sy'n gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol â disgybl
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.
About Us - Wrexham County Borough Council
Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.