MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Trefeglwys,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Blank
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro / Athrawes Dosbarth - Cyfrwng Cymraeg(Ysgol Dyffryn Trannon)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Blank
Athro / Athrawes Dosbarth - Cyfrwng Cymraeg(Ysgol Dyffryn Trannon)Swydd-ddisgrifiad
Athro / Athrawes Dosbarth - Swydd Parhaol
I ddechrau: 1 o Fedi, 2026
Lefel Iaith Cymraeg: Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Nid yw'r dosbarth ar gyfer y swydd hon wedi'i bennu eto. Anogir ymgeiswyr i amlinellu eu
cryfderau a'u profiad yn eu llythyr cais.
Mae Ysgol Dyffryn Trannon yn ysgol gynradd Gymraeg wedi'i lleoli ym mhentref Trefeglwys,
tua phum milltir o Lanidloes, ac yn gwasanaethu cymuned wledig.
Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi athro angerddol, ymroddedig ac ysbrydoledig i
ymuno â'n hysgol gynhwysol a blaengar.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
➢ yn uchelgeisiol ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.
➢ yn croesawu her ac yn gweithio gydag egni ac ymrwymiad.
➢ â sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
➢ yn benderfynol o ddarparu profiadau dysgu rhagorol i bob plentyn.
Mae ein hysgol yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu ac i hyrwyddo lles plant. Mae'r swydd yn
destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 8 Mehefin 2026
Rhestr Fer: Dydd Iau, 11 Mehefin 2026
Cyfweliadau: Dydd Mawrth, 23 Mehefin
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol.
Cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Caroline Harries, drwy e-bost ar
head@dyffryntrannon.powys.sch.uk neu drwy ffonio'r ysgol ar 01686 430644.
Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein.