MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llwyn yr Eos Primary School, Aberystwyth,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 33,731 - 51,942 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 33,731 - 51,942 *
Ynglŷn â'r rôlMae'r canlynol yn hysbyseb lle mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am athro arbenigol ardderchog i addysgu ac arwain yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol, i gychwyn ar ddechrau Medi 2026 neu ar y dyddiad cynharaf posib ar ôl hynny.
Gwahoddir ceisiadau gan athro arbenigol ymroddgar a brwdfrydig sydd â phrofiad a dealltwriaeth addas.
Bydd yr Athro Arbenigol yn gweithio dan gyfarwyddyd Pennaeth a CADY yr ysgol. Mae'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn darparu ar gyfer disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen sydd ag anghenion lleferydd ac iaith penodol.
Mae'r Ganolfan yn cynnig lleoliad gofalgar gyda mynediad llawn at weithgareddau dysgu sydd wedi'u gwahaniaethu mewn ffordd addas i gwrdd ag anghenion unigol y disgyblion. Mae gan bob disgybl fynediad at raglenni unigol sydd wedi'u teilwra'n arbennig i gwrdd â'i anghenion. Caiff disgyblion eu hintegreiddio i addysg brif ffrwd lle bo'n briodol.
Bydd yr Athro Arbenigol yn gallu rhoi gwersi rhagorol ac mi fydd ganddo/ganddi y gallu i greu perthnasoedd ystyrlon, ac ysbrydoli disgyblion sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith penodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth Mr Brian Evans ar 01970 617011/625809
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy