MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: See Job Advertisement,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £13,184 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £13,184 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Robert John Jones ar RobertJohnJones@gwynedd.llyw.cymru neu 07384482101.
Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 05/06/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Cymwysterau
Hanfodol
- Trwydded Yrru bws mini D1 gyfredol, lawn.
Dymunol
- Siarad Cymraeg, hyfforddiant teithwyr bregus
- Bydd angen DBS gyfredol, lawn cyn ymgymryd a'r dyletswyddau.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Cyfrifoldeb gyrru bws mini yn ddiogel ac effeithlon, gan ystyried iechyd, diogelwch a lles y teithwyr ac ystyriaethau rheolau'r ffordd fawr.
- Cynnal gwiriad diogelwch cerbyd dyddiol, yn unol a pholisïau'r adran fflyd, gan adrodd nol i'r rheolwr llinell a swyddogion perthnasol yr adran fflyd.
- Darparu gwasanaeth gyfeillgar a chynorthwyo dysgwyr i ddod i fewn ac allan o'r cerbyd yn ddiogel a sicrhau eu bod yn gwisgo gwregys diogelwch. Bydd angen ystyried nodweddion corfforol a meddyliol wrth lleoli seddi addas.
- Bydd angen gweithredu ramp cadair olwyn yng nghefn y cerbyd a sicrhau fod y dysgwr yn ddiogel wrth gael ei symud a bod y gadair yn cael ei chlampio yn gywir yn y cerbyd - darperir hyfforddiant priodol i'r perwyl hyn.
- Gwisgo dillad arbenigol a ddarperir gan y cyngor wrth ystyried nodweddion Iechyd a Diogelwch.
- Hysbysu y rheolwr llinell o unrhyw broblemau neu rhwystredigaethau a all fodoli neu ddigwyddiadau ar y cludiant, gan lenwi'r ffurflen berthnasol fel bo'r angen.
- Os bydd y cerbyd yn gorfod stopio yn annisgwyl, neu yn torri lawr, byddwch yn gyfrifol am drosglwyddo'r dysgwyr yn ddiogel i gerbyd arall.
- Sicrhau fod y cerbydau yn cael eu cadw yn lan y tu allan a thu mewn, darperir offer i'r perwyl hwn.
- Mynychu hyfforddiant yn berthnasol i'r swydd.
- Ymgymryd a dyletswyddau yn unol a pholisïau a gweithdrefnau'r cyngor,
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Chwarae rhan llawn wrth i'r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy'n bwysig i bobl Gwynedd.
• Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu'r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.
• Gweithredu'n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu'r Tim i gyflawni yr hyn sy'n bwysig i drigolion Gwynedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cynnal gwiriad diogelwch cerbyd dyddiol, yn unol a pholisïau'r adran fflyd, gan adrodd nol i'r rheolwr llinell a swyddogion perthnasol yr adran fflyd.
• Bydd angen gweithredu ramp cadair olwyn yng nghefn y cerbyd a sicrhau fod y dysgwr yn ddiogel wrth gael ei symud a bod y gadair yn cael ei chlampio yn gywir yn y cerbyd - darperir hyfforddiant priodol i'r perwyl hyn.
• Sicrhau fod y cerbydau yn cael eu cadw yn lan y tu allan a thu mewn, darperir offer i'r perwyl hwn.
Prif ddyletswyddau
• Cyfrifoldeb gyrru bws mini yn ddiogel ac effeithlon, gan ystyried iechyd, diogelwch a lles y teithwyr ac ystyriaethau rheolau'r ffordd fawr.
• Darparu gwasanaeth gyfeillgar a chynorthwyo dysgwyr i ddod i fewn ac allan o'r cerbyd yn ddiogel a sicrhau eu bod yn gwisgo gwregys diogelwch. Bydd angen ystyried nodweddion corfforol a meddyliol wrth lleoli seddi addas.
• Gwisgo dillad arbenigol a ddarperir gan y cyngor wrth ystyried nodweddion Iechyd a Diogelwch.
• Hysbysu y rheolwr llinell o unrhyw broblemau neu rhwystredigaethau a all fodoli neu ddigwyddiadau ar y cludiant, gan lenwi'r ffurflen berthnasol fel bo'r angen.
• Os bydd y cerbyd yn gorfod stopio yn annisgwyl, neu yn torri lawr, byddwch yn gyfrifol am drosglwyddo'r dysgwyr yn ddiogel i gerbyd arall.
• Mynychu hyfforddiant yn berthnasol i'r swydd.
• Ymgymryd a dyletswyddau yn unol a pholisïau a gweithdrefnau'r cyngor,
• Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella'r gwasanaeth gan adnabod materion sy'n rhwystro'r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
• Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi'r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.
• Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni'r hyn sy'n bwysig i bobl Gwynedd.
• Cynorthwyo timau eraill i gyflawni'r hyn sy'n bwysig i bobl Gwynedd.
• Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau uchod.
• Bod yn gyfrifol am ddatblygiad personol er mwyn medru cyflawni'r swydd
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Amgylchiadau arbennig
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi