MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Cerdd

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES

(Cyfun 11 - 18; 418 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi, 2026

AIL HYSBYSEB ARWEINYDD CERDD LLAWN/ RHAN AMSER PARHAOL

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol i arwain yr Adran Gerdd. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys, sydd â'r profiad a'r sgiliau angenrheidiol i arwain yr adran flaengar hon. Disgwylir i'r sawl a benodir addysgu Cerdd yn CA3 a CA4, ond mae cyfle i addysgu Celf Perfformio hefyd pe ddymunir.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) y flwyddyn yn ôl profiad a chymwysterau. Mae'r Llywodraethwyr yn barod i ystyried cynnig swydd 0.6 i ymgeisydd addas yn hytrach na swydd llawn amser pe ddymunir. Bydd CAD 2 yn ychwanegol i ymgeisydd profiadol.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a Pholisi Iaith Gwynedd. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones.

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA, (Rhif ffôn 01286 880345)

e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MAWRTH, 9fed o Fehefin, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi