MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Arholiadau

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL TRYFAN, BANGOR

(Cyfun 11 - 18; 541 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi 2026

Swyddog Arholiadau

Swydd Barhaol - Rhan Amser (3 diwrnod)

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person blaengar a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Prif gyfrifoldebau'r swydd fydd gweinyddu a chydlynu holl brosesau arholiadau ysgol gyfan yn unol â rheoliadau'r Cyrff Arholi a gweithredu fel aelod allweddol o'r staff ategol.

Mae'r rôl yn hanfodol er mwyn sicrhau pob chwarae teg i ddisgyblion yr ysgol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gywir a threfnus, yn fedrus ac yn awyddus i lwyddo.

Oriau gwaith: 22.5 awr yr wythnos, sef 3 diwrnod. Bydd gofyn am hyblygrwydd i gyfarch cyfnodau trwm arholiadau allanol (i'w drafod).

Bydd yn ofynnol i chi weithio 41 wythnos mewn blwyddyn ysgol (sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd yn ogystal â bod ar gael i weithio hyd at 6 diwrnod yn ystod gwyliau ysgol - yn cynnwys 2 ddiwrnod canlyniadau TGAU a 2 ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch ym mis Awst).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 (pwyntiau 12 - 17) (£15,879 - £17,539 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Dr Geraint Owen Jones (Rhif ffôn 01248 352633) neu trwy e-bost: pennaeth@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU

(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10.00 y bore, DYDD LLUN, MEHEFIN 8fed, 2026

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau w/c 15/06/26

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS Y SWYDD

Gweithio o dan arweiniad y rheolwr busnes ac aelodau o dîm arwain yr ysgol i sicrhau effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn ei gweithrediad.

Gweinyddu a chydlynu holl brosesau arholiadau ysgol gyfan yn unol â rheoliadau'r Cyrff Arholi.

PRIF DDYLETSWYDDAU
  • Gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y byrddau arholi, staff yr ysgol, disgyblion a rhieni
  • Casglu a phrosesu holl gofrestriadau ar gyfer arholiadau ac achrediadau allanol
  • Rheoli'r drefn o apwyntio arolygwyr arholiadau allanol, gan fod yn berson cyswllt, a llunio amserlen i'r arolygwyr.
  • Hyfforddi arolygwyr arholiadau allanol
  • Monitro perfformiad arolygwyr arholiadau
  • Cydweithio â'r Cydlynydd ADY i sicrhau trefniadau mynediad i ddisgyblion
  • Sicrhau ansawdd a monitro ethos ac awyrgylch yr ystafelloedd arholiadau yn unol â chyfarwyddiadau a rheolau'r byrddau arholi
  • Rheoli'r drefn o dderbyn a gwirio holl ddeunyddiau arholiadau ag achrediadau allanol ysgol.
  • Cydweithio ac arwain y Technegydd Digidol gyda chydlynu unrhyw arholiad/asesiad sydd ar-lein / Digidol.
  • Cyhoeddi cyfarwyddiadau a chychwyn/gorffen arholiadau yn yr ystafelloedd arholi.
  • Llunio ceisiadau i'r byrddau arholi ar gyfer ystyriaethau arbennig, ar y cŷd gyda'r Dirprwy Bennaeth.
  • Bod yn gyfrifol am drefniadau diogelwch digonol yn ymwneud â gwybodaeth a phapurau arholiadau yn unol â gofynion y byrddau arholi
  • Bod yn gyfrifol am drefn eistedd arholiadau
  • Monitro a sicrhau bod rheolau'r byrddau arholi yn cael eu cadw gan gynnwys yr ystafell arholiad, yr amserlen, gwaith cwrs, ymdrin â phapurau, rhannu canlyniadau, amser ychwanegol, ystyriaeth arbennig, a.y.y.b
  • Cyfrifoldeb am lawrlwytho a threfnu dosbarthu canlyniadau
  • Bod yn bresennol ar adegau derbyn a chyhoeddi canlyniadau i sicrhau bod y wybodaeth berthnasol gywir yn cyrraedd y disgyblion a staff ac i ddelio ag ymholiadau
  • Gwirio a gwerthuso data canlyniadau i bwrpasau'r UDA, yr AA Lleol, CBAC a'r Llywodraeth yn ôl y gofyn
  • Bod yn rhagweithiol wrth reoli a monitro cyllid arholiadau
  • Sicrhau a monitro argaeledd gwybodaeth am arholiadau a materion cysylltiedig i staff a disgyblion
  • Rheoli gwasanaeth ôl-ganlyniadau ysgol, prosesau tystysgrifau ayyb
  • Rheoli stoc adnoddau arholiadau allanol a mewnol yr ysgol yn cynnwys offer arbenigol, desgiau arholiad, papurau atebion byrddau arholi, ayyb.
  • Llunio amserlen arholiadau mewnol ar y cŷd â'r UDA.
  • Bod yn gyfrifol am drefnu a gweithredu trefniadau'r arholiadau mewnol, allanol a chenedlaethol.
  • Gwirio presenoldeb yn yr arholiadau a chydlynu gyda swyddfa'r ysgol i wneud cyswllt gyda rhieni

Cefnogaeth i'r Ysgol
  • Cydymffurfio a chynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau perthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyd-gyfrinachedd a gwarchod data, adrodd ar bryderon i'r person priodol.
  • Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Adnabod hunan-gryfderau ac ardaloedd o arbenigedd a defnyddio'r rhain i arwain, cynghori a chefnogi eraill.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi