MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Soulbury 13-16 a 3 pwynt SPA
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Arweinydd Cynhwysiant ADY (Uwchradd ac Ôl-16)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Soulbury 13-16 a 3 pwynt SPA
Lleoliad gwaith: Coed PellaMae Gwasanaeth Addysg Conwy yn chwilio am ymarferydd addysg profiadol i ymuno â'r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol i ymgymryd â rôl hanfodol wrth gefnogi a sicrhau'r ansawdd addysg gorau i bob plentyn a pherson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (11-25).
Mae hon yn rôl barhaol amser llawn i wella'r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid a datblygu. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a her ddwyieithog er mwyn parhau i wella canlyniadau a phrofiad pob plentyn a pherson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr profiadol, arloesol, sy'n canolbwyntio ar atebion i ymuno â'r tîm.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd gennych y sgiliau a'r arbenigedd i arwain ar agweddau statudol ac anstatudol perthnasol ar ADY o fewn y sector uwchradd ac ôl-16, gan gynnwys ysgolion, lleoliadau addysg bellach, addysg gartref ddewisol, lleoliadau y tu allan i'r sir ac ysgolion annibynnol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Gwella Addysg, ysgolion, lleoliadau, rhanddeiliaid a'r Tîm ADY ehangach i gasglu a rhannu gwybodaeth a chynllunio a chyflawni gwelliannau i sicrhau'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc yng Nghonwy. Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r swydd yn cael ei thalu ar raddfa Gweithiwr Proffesiynol Gwella Addysg Soulbury a chroesewir ceisiadau gan ymarferwyr profiadol sydd â hanes profedig o reoli ymyriadau addysg yn llwyddiannus i wella canlyniadau i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Gallai hyn fod mewn lleoliad ysgol neu fel gweithiwr proffesiynol o fewn Awdurdod Lleol neu Gonsortiwm Rhanbarthol. Mae manylion pellach am ddyletswyddau a chyfrifoldebau penodol i'r swydd wedi'u hamlinellu yn y ddogfennaeth ychwanegol.
Oherwydd natur y gwaith, mae'r swydd yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Catherine Webster, Rheolwr Gwasanaeth ADY ( catherine.webster@conwy.gov.uk / 01492 575082)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol (lefel 3) ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.