MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £16.58 - £18.69
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Asesydd Trin Gwallt 

Asesydd Trin Gwallt 

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Asesydd Trin Gwallt 

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Telir fesul awr, Cyfnod penodol (Mehefin 2023)

Graddfa Gyflog:  £16.58 - £18.69 yr awr

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Asesydd Trin Gwallt i ymuno â’n tîm Trin Gwallt a Harddwch ar ein safle Iâl, Wrecsam. Fel Asesydd yng Ngholeg Cambria, byddwch yn gyfrifol am asesu ystod o gymwysterau hyd at Lefel 4. Bydd hyn yn cynnwys monitro cynnydd ymgeiswyr tuag at ennill eu cymwysterau, rhoi adborth adeiladol iddynt a’u helpu i baratoi portffolio tystiolaeth.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster proffesiynol Lefel 5 o leiaf mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster cyfwerth.

Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny (TAQA).

Cymhwyster dilysydd, neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny. (E.e.: PTLLS)

Cymhwyster hyfforddi neu addysgu ychwanegol.  

Profiad amlwg yn y diwydiant mewn maes perthnasol proffesiynol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg. 

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. 

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.