MANYLION.
  • Lleoliad: Schools,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth : L10-14\n
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd ADY- Ysgol Aberconwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth : L10-14\n

YSGOL ABERCONWY

Cydlynydd ADY

Yn eisiau o fis Medi 2026: CADY
Mae hon yn swydd barhaol, amser llawn
Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth : L10-14
Dyddiad Cau: Dydd Llun, Mehefin 1af

Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol

Rydym yn awyddus i benodi Cydlynydd ADY brwdfrydig a llawn cymhelliant. Fel aelod o'r tîm arweinyddiaeth, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am greu a gweithredu strategaeth ysgol gyfan ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddant yn darparu arweiniad proffesiynol ym maes ADY er mwyn sicrhau safonau cyflawniad gwell i bob disgybl, ac yn sicrhau bod anghenion dysgu myfyrwyr yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol trwy gysylltu ag asiantaethau allanol, staff adrannol a chynorthwywyr addysgu.

Gweithdrefnau Diogelu

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Gan gofio hyn, hoffem dynnu eich sylw at y materion canlynol:

Gwneir pob penodiad yn amodol ar y canlynol:
a. Gwiriadau GDG manwl;
b. Gwiriadau o statws proffesiynol (CGA; QTS ayyb.)
c. Cadarnhad o gymwysterau proffesiynol; font-size:12pt">d. Derbyn geirdaon cryf (os na chawsant eu derbyn erbyn y cyfweliad); font-size:12pt">e. Cliriad meddygol

Rydym ond yn derbyn ceisiadau a gwblhawyd ar ffurflen gais Conwy gyda llythyr eglurhaol. Os gwelwch yn dda, peidiwch â gyrru CV neu dystebau agored.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English