MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL ARDUDWY
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 336 o ddisgyblion)
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4
Dyddiad cychwyn 1af Medi, 2026.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 31 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (£21,346 - £23,155 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs Angela Walters, Rheolwr Busnes, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD IAU, 4 MEHEFIN 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytøn. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
- Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
- Fel rhan o'r swydd hon bydd gofyn I'r deilydd weithio'n annibynol ac fel rhan o dim Ysgol Ardudwy gan gefnogi disgyblion oed uwchradd, 11-16 oed mewn ystafell gefnogaeth waith bwrpasol. Bydd lefel y gefnogaeth yn greiddiol i'r dysgwr gwblhau'r dasg yn llwyddianus ac er eithaf eu gallu. Yn ogystal a chwblhau'r gwaith bydd angen i'r deilydd hybu ymddygiad bositif gan gynnal safonau ymddygiad yn yr ystafell ymyrraeth. Wrth wneud hyn bydd angen sicrhau awyrgylch bositif, hwyliog a gweithgar gan ymateb i anghenion pob dysgwr unigol a'u cefnogi I gwblhau y dasg wrth law.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogi'r Disgyblion
- Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
- Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
- Cefnogi'r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
- Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
- Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.
- Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
Cefnogi'r Athro
- Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
- Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu a ragbenodwyd.
- Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
- Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
- Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunan-reolaeth ac annibyniaeth.
- Gweinyddu ac asesu/marcio profion a goruchwylio arholiadau/profion.
- Cynhyrchu ac addasu, yn sgil gwerthuso, cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb, er mwyn cwrdd a nodau addysgu a dysgu
- Cefnogi rhan rhieni yn nysgu'r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.
Cefnogi'r Cwricwlwm
- O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.
- Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.
- Defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
- Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
- Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
Cefnogi'r Ysgol
- Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
- Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
- Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
- Adnabod hunan-gryfderau ac ardaloedd o arbenigedd a defnyddio'r rhain i arwain, cynghori a chefnogi eraill.
- Cyflwyno gweithgareddau dysgu y tu allan i'r ysgol o fewn y canllawiau a sefydlwyd gan yr ysgol.
- Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i'r ysgol sy'n cadarnhau ac yn ymestyn gwaith yn y dosbarth.
- Defnyddio blaengaredd fel y bo'n briodol i ddatblygu dulliau amlasiantaethol priodol i gefnogi disgyblion.
Cyfrifoldebau ychwanegol pan yn briodol
- Cefnogi a rhoi arweiniad i gymorthyddion addysgu eraill pan yn briodol.
- Cysylltu rhwng rheolwyr/staff addysgu a chymorthyddion addysgu.
- Ymgymryd â anwytho/hyfforddi/mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.
Materion Amddiffyn Plant
- Cyfrifol am adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Materion eraill.
- Arolygu gwersi yn achlysurol mewn cyfod o absenoldebau dirybudd a chynlluniedig athrawon gan gynnwys:
- Roi gwaith i`r disgyblion sydd wedi ei baratoi gan athrawon.
- Gofrestru Dosbarthiadau pan fydd athrawon yn absennol.
- Arolygu gwaith sydd wedi'i osod ar gyfer dosbarthiadau.
- Ymateb i gwestiynau gan ddisgyblion ynglŷn â sut i gwblhau'r gwaith.
- Casglu gwaith a gwblhawyd yn ystod y wers a'i ddychwelyd i'r athro/athrawes priodol.
- Delio ag unrhyw broblemau neu ar gyfyngiadau sydd yn codi yn ystod yr arolygu gan ddefnyddio polisïau'r ysgol i ymateb iddynt yn briodol.
- Rheoli ymddygiad plant wrth iddynt gwblhau'r gwaith er mwyn sicrhau awyrgylch priodol.
- Adrodd ar unrhyw gamymddwyn gan ddisgyblion yn ystod y cyfnod arolygu gan ddefnyddio cyfundrefn gyfeirio'r ysgol fel sy'n briodol.
- Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel aelod o dîm gan sicrhau trefn briodol a darparu cymorth disgwyliedig o fewn yr arholiadau, gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan y swyddog arholiadau.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad proffesiynol.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn unol â`r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
- Gweithredu o fewn polisïau`r ysgol yng nghyswllt Cyfle Cyfartal a Chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau yr ysgol. Sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi