MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG
YSGOLION DILYNOL

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2

YSGOL GODRE'R BERWYN

(Cyfun 3 - 18: 578 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Cyn gynted a phosib

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 5 - 6 (£17,857 - £18,141 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o weithio yn y cyfnod sylfaen neu gyda plant meithrin o fantais, ond nid yw hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd ar y ffurflen electroneg neu mae pecyn cais i'w gael gan Iwan Jones, Rheolwr Busnes a Cyllid Ysgol Godre'r Berwyn. iwan.jones@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Nid yw'n bolisi gan Gyngor Gwynedd i gydnabod derbyn ffurflenni cais ar wahân i'r ceisiadau a dderbynnir ar-lein. Fodd bynnag os ydych yn penderfynu ymgeisio am y swydd drwy beidio defnyddio'r system ar-lein ac yn dymuno cael cadarnhad bod eich cais wedi ei dderbyn, yna ffoniwch Iwan Jones (rhif ffôn: 01678 520259).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swyddi yma yn yr wythnos yn cychwyn 8fed o Fehefin 2026

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD IAU 4 ydd O FEHEFIN 2026

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.

Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.

Cynorthwyo'r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn y dosbarth (tu mewn a thu allan) a thu draw.

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU
• NVQ Lefel 2 neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol.
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.

GWYBODAETH A SGILIAU
• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi dysgu
• Y defnydd o offer/adnoddau perthynol
• Gwybodaeth o faes pynciol/ technegol arbennig .
• Gwybodaeth o bolisïau / codau ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
• Y gallu i adnabod anghenion hyfforddi a datblygu'r hunan ac i gydweithredu gyda'r modd i fynd i'r afael â'r rhain.
• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
• Gwybodaeth berthnasol o gymorth cyntaf

PROFIAD
• Profiad o weithio gyda phlant o'r oed perthnasol.

NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
• Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at waith.
• Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg

ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
• Profiad o gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion lles a chynhwysiad

Swydd Ddisgrifiad

Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.

Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.

Cynorthwyo'r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn y dosbarth (tu mewn a thu allan) a thu draw.
  • Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
  • Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
  • Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.
  • Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cefnogaeth i Ddisgyblion
  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
  • Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol.
  • Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
  • Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
  • Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
  • Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
  • Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.
  • Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.

Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
  • Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
  • Cysylltu â'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
  • Cysylltu â'r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
  • Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
  • Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
  • Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
  • Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
  • Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytøn.
  • Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
  • Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

Cefnogaeth i'r Ysgol
  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
  • Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
  • Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi