MANYLION.
  • Lleoliad: Newtown,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: ISR 26 - 32
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol Robert Owen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR 26 - 32

Pennaeth (Ysgol Robert Owen)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'n bleser gan Gorff Llywodraethu Ysgol Robert Owen wahodd ceisiadau
gan uwch arweinwyr profiadol iawn a medrus sy'n barod i arwain y cam
nesaf o ddatblygiad darpariaeth arbenigol llwyddiannus.
Ers symud i'n cyfleuster anghenion addysgol arbennig o'r radd flaenaf, a
adeiladwyd yn bwrpasol ym mis Medi 2024, mae Ysgol Robert Owen wedi
parhau i dyfu ac esblygu. Rydym nawr yn chwilio am Bennaeth eithriadol a all adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle, datblygu'r ddarpariaeth unigryw hon ymhellach, a llunio dyfodol addysg arbenigol yng nghanol Powys. Dymuna'r Llywodraethwyr benodi Pennaeth ysbrydoledig, brwdfrydig a
hynod ymroddedig a fydd yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol
ar gyfer ein darpariaeth arbenigol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain
datblygiad parhaus-addysgu a dysgu o ansawdd uchel, yn meithrin ac yn
ysbrydoli dysgwyr a staff, ac yn cryfhau gwytnwch a hyder rhieni a theuluoedd.
Elfen allweddol o'r rôl fydd datblygu partneriaethau cryf gyda'r gymuned leol ac
ehangach, yn ogystal â gweithio'n effeithiol gydag ystod o asiantaethau allanol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• gosod anghenion cymdeithasol, emosiynol ac addysgol plant a phobl
ifanc yn gadarn yng nghanol eu harweinyddiaeth, gydag ymrwymiad
diwyro i wella canlyniadau a chyfleoedd bywyd i bob dysgwr;
• dangos record brofedig o uwch arweinyddiaeth lwyddiannus o fewn
darpariaeth anghenion dysgu arbenigol neu ychwanegol, gyda'r gallu i
ysgogi, ysbrydoli a datblygu eraill;
• meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sy'n eu galluogi i
gryfhau partneriaethau â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach; ac yn
• meddu ar y weledigaeth, yr ysfa a'r brwdfrydedd i gynnal a gwella ein
diwylliant cadarnhaol, perfformiad safon-uchel a chynhwysol ymhellach.
Mae llywodraethwyr a dysgwyr yn annog darpar ymgeiswyr yn gryf i ymweld
ag Ysgol Robert Owen. Mae'r ymweliadau hyn yn rhoi cyfle amhrisiadwy i
dreulio amser ystyrlon gyda dysgwyr ar draws pob grŵp oedran ac ystod eang
o anghenion, ac i gael dealltwriaeth wirioneddol o'n darpariaeth, ein ethos a'n
dyheadau. Gellir trefnu ymweliadau yn ystod y tymor hyd at y dyddiad cau.
Mae hwn yn gyfle arweinyddiaeth arwyddocaol a gwerth chweil i weithiwr
proffesiynol profiadol sy'n angerddol am addysg arbenigol ac wedi ymrwymo i
wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae disgyblion a llywodraethwyr yn disgwyl i ddarpar ymgeiswyr ymweld â'n
hysgol. Yn ystod yr ymweliadau hyn, bydd disgwyl i ymgeiswyr dreulio amser
sylweddol gyda disgyblion ar draws grwpiau oedran a gyda'r anghenion
ehangaf. Gellir trefnu ymweliadau ysgol drwy gysylltu â Lynda Crunkhorn
(Rheolwr Busnes) ar L.Crunkhorn@robertowen.powys.sch.uk neu 01686
627454.
I wneud cais, ewch i'n gwefan Swyddi Gwag - Cyngor Sir Powys
Fel arall, i gael pecyn cais, cysylltwch â'r tîm Recriwtio drwy ebostio recruitment
@powys.gov.uk neu ffonio 01597