MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: MPS \/ UPS
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Dosbarth / Athrawes Ddosbarth - Ysgol Gynradd New Inn
Torfaen Local Authority
Cyflog: MPS \/ UPS
Dyddiad dechrau: Medi 2026Rhannu Swydd (3 diwrnod) Dydd Llun - Dydd Mercher
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd New Inn yn dymuno penodi ymarferydd rhagorol i rannu swydd yn ein hysgol hapus a llwyddiannus.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth ragorol am addysgu a dysgu o ansawdd uchel a bydd yn cyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am ddysgu proffesiynol, sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gweithio'n dda yn rhan o dîm.
Os oes diddordeb gennych yn y swydd, llenwch ffurflen gais ac anfonwch datganiad ategol sy'n nodi'n fanwl sut yr ydych yn bodloni'r fanyleb person.
Tynnu'r Rhestr Fer: Dydd Mawrth 2 Mehefin 2026
Arsylwi ar Wersi: Dydd Gwener 5 Mehefin 2026 / Dydd Llun 8 Mehefin 2026
Cyfweliadau: Dydd Mercher 10 Mehefin
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.