MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £32,597 - £35,412 Pro Rata | Grade 6
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Cymorth Hwb Dysgu – Ysgol Gorllewin Mynwy

Torfaen Local Authority

Cyflog: £32,597 - £35,412 Pro Rata | Grade 6

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

32.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn (Yn ystod y tymor ysgol)

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Rheolwr Cymorth Hwb Dysgu, gofalgar ac ymroddedig i sicrhau bod pob disgybl sy'n defnyddio ein Hwb Dysgu yn gallu cyrraedd eu potensial llawn mewn ystod o gymwysterau perthnasol a phriodol. Bydd y rôl yn gofyn am weithio o dan arweiniad staff addysgu ac uwch aelodau staff, i gyflwyno cwricwlwm pwrpasol yn effeithiol i ddisgyblion CA4, er mwyn iddynt gyflawni eu nodau dysgu mewn amgylchedd trefnus a chefnogol wrth fynd ati i'w paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau perthnasol.

Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol gyfun gymysg i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a'r cyffiniau. Mae gan Ysgol Gorllewin Mynwy enw ardderchog yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.