MANYLION.
  • Lleoliad: Mid Powys,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 31 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog / Trefnydd Arholiadau (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr

Swyddog / Trefnydd Arholiadau (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Prif Ddiben y Swydd:
Mae'r swydd yn gyfrifol am weinyddu a threfnu pob agwedd ar arholiadau allanol yn unol â'r rheoliadau a osodir gan y cyrff dyfarnu.
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch), drwy ei chyfraniad at bolisi'r ysgol ar gynnal arholiadau.
Cyfrifoldeb am staff: Mae'r swydd yn trefnu, yn hyfforddi ac yn cynefino goruchwylwyr arholiadau achlysurol a gall fod yn gyfrifol am staff eraill sy'n gweinyddu arholiadau.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol. Gallai ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol sylweddol am
adnoddau ffisegol, gan gynnwys trin a phrosesu dogfennau a gwybodaeth mewn modd gofalus,
cywir, cyfrinachol a diogel.