MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Soulbury B (Principal and Senior) 9-12 plus 3 SPAs
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Soulbury B (Principal and Senior) 9-12 plus 3 SPAs
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae ColwynAr hyn o bryd mae gennym swydd arweinyddiaeth gyffrous yn ein tîm Seicoleg Addysg a'n gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ehangach. Mae gwasanaeth ADY Conwy yn cynnwys timau ffyniannus, cadarnhaol a chlos sydd â brwdfrydedd cyfunol dros degwch mewn addysg i bob dysgwr. Mae gennym hanes cryf o gadw staff, ac arferion gwaith cydweithredol cryf gydag ysgolion a lleoliadau, y tîm Addysg ehangach a'n partneriaid mewn Gofal Cymdeithasol.
Rydym yn chwilio am Brif Seicolegydd Addysg gyda gweledigaeth, brwdfrydedd, arbenigedd a'r gallu i arwain y tîm a'r gwasanaeth ehangach ymlaen. Bydd deiliad y swydd yn rhan allweddol o grŵp Arweinwyr Tîm ADY, gan gefnogi ein mentrau a'n gweithredoedd gwasanaeth ar y cyd.
Fel Prif Seicolegydd Addysg, byddwch yn helpu i lunio arfer lleol, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i hyrwyddo tegwch mewn addysg a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddwch yn sicrhau bod gan ein tîm Seicoleg Addysg y sgiliau a'r arbenigedd i ddylanwadu ar gefnogaeth ac arwain y gefnogaeth ar draws yr ardal leol.
Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad a lleoliadau Seicolegwyr Addysgol dan Hyfforddiant, ac fel Prif Seicolegydd Addysgol byddwch yn arwain ac yn cymryd rhan yn ein diwylliant o gefnogaeth gan gymheiriaid, dysgu parhaus a datblygiad proffesiynol y tîm ADY cyfan.
Rydym yn chwilio am Seicolegydd arloesol, ysbrydoledig sy'n canolbwyntio ar atebion gyda rhywfaint o brofiad o reoli timau/pobl a'r gallu i feddwl yn strategol.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Catherine Webster, Rheolwr Gwasanaeth ADY (01492 575082 / catherine.webster@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.